Croeso Steve Dimmick – Prif Weithrediwr Interim Aloud

Newyddion

Yn dilyn penderfyniad ein Prif Weithredwr, Carys Wynne-Morgan, i symud ymlaen i ddatblygu ei gyrfa, mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Elusen Aloud yn falch o gyhoeddi mai Steve Dimmick fydd yn cymryd rôl Prif Weithredwr Interim yr elusen. Mae’r Bwrdd yn hynod ddiolchgar i Carys am ei gwaith ac yn estyn croeso cynnes iawn i Steve.

Fe fydd Steve yn arwain y tîm er mwyn sicrhau fod gweithgareddau Aloud yn parhau fel arfer a bod y cantorion ifanc yn cael y profiadau a’r gefnogaeth orau posib. Bydd hefyd yn cynorthwyo’r Bwrdd wrth iddynt ystyried y ffordd orau i barhau i gynnig profiadau trawsnewidiol i’n cantorion, fel ein bod yn gallu adeiladu ar y gwaith ardderchog a wnaed dros y blynyddoedd a chadw enw da a gwaith Aloud yn amlwg iawn ym myd cerddorol Cymru.

Dywedodd Steve Dimmick “Mae gan Aloud allu arbennig i ddod â phobl ifanc at ei gilydd a rhoi llais iddynt, ar y llwyfan ac mewn bywyd. Rwy’n gyffrous i weithio gyda’r tîm a’r Bwrdd i adeiladu ar y momentwm hwnnw. Fy ffocws fydd sicrhau parhad, cryfhau’r hyn sy’n gweithio a helpu i lunio pennod nesaf hyderus i’r elusen.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Elusen Aloud, Dr Ian Rees “ Rydym yn falch o groesawu person mor ymroddgar, brwdfrydig a deinamig i arwain yr elusen dros y misoedd nesaf. Rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd gwaith Aloud yn parhau am flynyddoedd i’r dyfodol ac yn awyddus i gydweithio gyda Steve i ganfod y ffordd orau i wneud hynny”.

Share Article:

Read another article...

Aloud To Be (1)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Joel
Aloud To Be (3)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Rhodri
Aloud To Be (2)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Iestyn
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.