Swyddi Gwag Presennol

Yn Elusen Aloud, rydym ni’n ymfalchïo yn y gwaith hyfryd a wnawn. Boed yn gweithio fel arweinydd côr a helpu bechgyn Only Boys Aloud gyda’u hyfforddiant lleisiol, codi arian i’r elusen, helpu gyda’n calendr prysur o ddigwyddiadau, neu rywbeth arall yn llwyr, rydym ni’n hoff o gael hwyl a gweithio i wella ein cymuned.

Cydlynydd Digwyddiadau Her a Chymunedol

Disgrifiad Rôl

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn yma.

Mae Elusen Aloud yn chwilio am Cydlynydd Digwyddiadau Her a Chymunedol i weithio ledled Cymru, gan ein helpu i godi arian drwy roddion. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu ein gweithgareddau canu grŵp am ddim i bobl ifanc ledled Cymru.

Bydd y Cydlynydd Digwyddiadau Her a Chymunedol yn aelod rhagweithiol o’r Tîm Datblygu, gan lwyddo i ddenu rhoddion a chefnogaeth gan aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid presennol. Bydd yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau her, digwyddiadau cyfranogiad trydydd parti a digwyddiadau codi arian dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y gymuned.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • O leiaf 2 flynedd o brofiad yn cynhyrchu incwm mewn rôl codi arian neu werthu sy’n
    ymwneud â’r cyhoedd
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda hanes blaenorol cryf o ddefnyddio iaith a chynnwys
    perswadiol i ymwneud ag aelodau’r cyhoedd a hyrwyddwyr trydydd parti
  • Parodrwydd i weithio gyda gwirfoddolwyr, gyda dealltwriaeth o bwysigrwydd cefnogwyr
  • Dealltwriaeth o gyllidebau, gyda’r gallu i reoli cofnodion prosiectau yn gywir
  • Angerdd dros gefnogi’r celfyddydau a phobl ifanc yng Nghymru
  • Hunan-gymhelliant, uchelgais a’r gallu i weithio’n dda yn annibynnol neu fel rhan o dîm

I ymgeisio: Anfonwch eich CV a dim mwy na dwy dudalen o lythyr eglurhaol yn nodi sut rydych yn
ateb gofynion y rôl i [email protected].

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 3pm ar ddydd Llun 2 Hydref 2023. Gofynnir i ymgeiswyr hefyd
gwblhau ffurflen cydraddoldeb, a fydd yn cael ei dynnu ffwrdd o’r ffurflen gais wedi’i dderbyn a ni
chaiff hwn effaith ar ein penderfyniad.

Arweinydd Cymunedol

Disgrifiad Rôl

Mae gennym ni grŵp gwych o Arweinyddion Cymunedol gwirfoddol ac ni allem wneud y cyfan hebddyn nhw!

O fynychu ymarferion wythnosol a digwyddiadau i helpu i glymu teis, maen nhw’n aelodau allweddol o’r tîm ac rydym bob amser yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn Arweinydd Cymunedol.

Disgrfiad Rôl PDF > Arweinydd Cymunedol

Dysgwch fwy am ddod yn wirfoddolwr a darllen astudiaethau achos o’n cefnogwyr presennol ar ein Tudalen Gwirfoddoli.

Os hoffech gael fwy o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth [email protected]