Codi Arian Gyda Ni
Mae gennym ni lwyth o ddigwyddiadau, syniadau ac ysbrydoliaeth i’ch helpu i godi arian i’n prosiectau yng Nghymru.
P’un a ydych chi eisiau trefnu eich digwyddiad eich hun neu wynebu her elusennol, rydym ni yma i helpu i sicrhau bod eich syniad codi arian yn llwyddiant.
Does dim angen i chi dreulio oriau bob wythnos na rhedeg 100 o farathonau i chwarae eich rhan! Gall rhywbeth mor syml â gwerthu cacennau, cyfnewid dillad neu gynnal sgwrs yn eich ysgol wneud gwahaniaeth enfawr i’n gallu i ddarparu gweithgarwch o’r ansawdd uchaf i’n cyfranogwyr.
Rydym ni wrth ein bodd yn clywed eich syniadau am sut i godi arian. Does yr un awgrym yn rhy fawr na’n rhy fach, felly da chi, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na pharod i gael sgwrs.
Dyma ein cynllun hawdd, pedwar cam, i lwyddo wrth godi arian:
Dewis eich her!
Os mai dyma eich tro cyntaf yn trefnu digwyddiad, cadwch bethau’n syml a dechreuwch gyda’r hyn sy’n gyfarwydd i chi, neu gallech gymryd rhan mewn digwyddiad sydd eisoes yn bodoli, fel taith gerdded noddedig.
Cynllunio a Hyrwyddo
Meddyliwch yn ofalus am bopeth fydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich cynllun yn llwyddiant. Trafodwch eich syniadau gyda’n tîm Codi Arian, a chewch ddeunyddiau ac adnoddau ychwanegol, fel Ffurflenni Noddi, sticeri a baneri. Ystyriwch a fydd angen trwyddedau arbennig neu wybodaeth elusennol arnoch, a rhowch wybod i gymaint o bobl â phosib am eich cynlluniau – po fwyaf o bobl y gallwch eu cynnwys, y mwyaf o arian y byddwch yn ei godi!
Mwynhau eich digwyddiad
Ar ôl yr holl waith caled yna, fe ddylech chi deimlo’n falch eich bod yn gwneud gwahaniaeth wrth gefnogi ein helusen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu lluniau ac yn eu rhannu â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Talu’r Arian a Godwyd
Os ydych chi wedi defnyddio platfform codi arian fel VirginMoneyGiving neu JustGiving, bydd eich cyfraniadau’n cael eu hanfon yn ddiogel i ni yn uniongyrchol. Fe roddwn wybod i chi pan fydd wedi cyrraedd! Os ydych chi wedi casglu arian parod neu sieciau, cysylltwch â ni i drafod beth yw’r ffordd orau i chi anfon yr arian i ni.
Pob lwc – a phob hwyl wrth godi arian!
Manteision
Gwneud Gwahaniaeth!
Boed yn fawr neu’n fach, bydd yr arian a godwch yn cael effaith sylweddol ar ein gwaith.
Gwella Eich Sgiliau a’ch Profiad
Gall cynllunio digwyddiad codi arian fod yn waith caled, a gall y sgiliau gwerthfawr a’r profiad a gewch wneud gwahaniaeth go iawn wrth ichi wneud cais am swydd newydd neu am le mewn prifysgol.
Rhannwch Eich Syniadau
Anfonwch e-bost i’n tîm codi arian cyfeillgar, a fydd yn hapus iawn i’ch helpu gyda’ch cynlluniau.