Prosiectau eraill

Yn ogystal â’n prosiectau craidd, rydym ni hefyd yn cynnal llu o weithgareddau canu eraill i bobl ifanc yng Nghymru. Rydym yn falch o’n partneriaethau ac wrth ein bodd yn dod o hyd i ffyrdd newydd i gyflawni prosiectau o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd newydd.

Cyfansoddi gyda Phorthladd Aberdaugleddau

Yn ystod mis Mai 2022, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phorthladd Aberdaugleddau ar brosiect cyfansoddi, wedi ei gefnogi gan gynllun CultureStep Arts & Business Cymru. Gan weithio gyda disgyblion cerddoriaeth o Ysgol Harri Tudur ym Mhenfro, bydd y gân newydd yn mynegi teimladau’r disgyblion ynghylch amddiffyn lles ein planed.

Sound UK

Roedd hi’n fraint cael cynrhychioli Cymru fel rhan o brosiect Sound UK ‘A Song For Us’ ym mis Mawrth 2022. Roedd y prosiect hwn yn comisiynu cyfansoddwyr a cherddorion i ysgrifennu caneuon newydd wedi eu hysbrydoli gan bobl o’u hardal. Ar gyfer cân Cymru, comisiynwyd Amy Wadge – enillwr gwobr Grammy a llysgennad Aloud – a sylfaenydd Aloud Tim Rhys-Evans i ysgrifennu cân yn arbennig ar gyfer corau Aloud.   Wedi ei hysbrydoli gan y trafferthion yr ydym oll wedi ei brofi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r gân emosiynol yn ein hannog i anadlu a’n hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain.
Aloud in Conversation

Aloud in Conversation

Un o’n mentrau yn ystod y cyfnod clo yw’r prosiect newydd hwn. Y nod yw rhoi i aelodau Only Boys Aloud rywbeth gwahanol a gwreiddiol i wrando arno. Credwn ei bod yn bwysig cynnig amrywiaeth yn ein hymarferion wythnosol, ac mae ein cyfres Aloud in Conversation yn ategu’r ethos hwn yn berffaith. Tua unwaith y mis drwy gydol 2021, rydym yn cynnal cyfweliadau byw, awr o hyd, yng nghwmni gwesteion hynod ddiddorol a llawn ysbrydoliaeth, gan gynnwys ein Llysgennad Ieuenctid, Callum Scott Howells; cyn-aelod arall OBA, Tom Hier; a’r Llysgenhadon, Syr Bryn Terfel a Rebecca Evans. Mae ein gwesteion hyfryd yn esiamplau gwych i’n haelodau ifanc, ac yn trafod popeth o glyweliadau llawn embaras ac adegau mwyaf cofiadwy OBA, i’w hoff rolau ym myd y Theatr Gerdd, ac mae’n nhw’n cynnig cip unigryw y tu ôl i’r llen ar eu gyrfaoedd amrywiol a llwyddiannus.

Prosiect Canu yn Japan

Roeddem ni’n falch iawn o gael gweithio ar y prosiect canu diwylliannol hwn mewn partneriaeth â thair ysgol yn Japan. Cynhaliodd ein Harweinyddion Côr, ynghyd ag aelodau Only Boys Aloud, gyfres o weithdai i addysgu ein fersiwn ni o Calon Lân i’r disgyblion yn Japan. Ac er bod y corau 6000 o filltiroedd i ffwrdd, roedden nhw i glywed hyfryd!

Only 'Fitzalan' Aloud

Roeddem ni wrth ein bodd o dderbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i helpu ein prosiect Cydweithio Creadigol newydd sbon ac arloesol: ‘Only Fitzalan Aloud’!

Amy Wadge, cantores a chyfansoddwr caneuon, enillydd Gwobr Grammy a Llysgennad Aloud, aeth ati i gychwyn ar y fenter ganu a chyfansoddi dros gyfnod o 10 wythnos yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd.

Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yn gyfoethog o amrywiol; daw’r rhan fwyaf o’i disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, ac mae hefyd gan yr ysgol lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Gan gydweithio rhwng tiwtoriaid Aloud a staff Fitzalan, nod y prosiect oedd cael cymaint â phosib o ddisgyblion i ganu a chreu gyda’i gilydd, gan ddefnyddio cerddoriaeth i sbarduno hyder, dyhead a pharch.

Prosiect Merthyr

Drwy’r prosiect cyfansoddi cân hwn, daeth 30 o ddynion ifanc (rhwng 14 a 19 oed) ynghyd o Stad y Gurnos ym Merthyr Tudful ac o Gôr OBA yn Aberdâr. Roeddent yn gweithio gyda Thîm Aloud, Arweinyddion Corau a Llysgennad Aloud, Amy Wadge, i gyfansoddi, perfformio a recordio cân newydd sbon. Bu’r bechgyn yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai a oedd yn cynnwys ymarferion cynhesu corfforol a lleisiol, ymarferion adeiladu tîm, dysgu technegau lleisiol penodol, sgiliau ysgrifennu geiriau a chyfansoddi caneuon, a sgiliau perfformio a chyflwyno. Ar ôl cwblhau’r prosiect, dyma lawer o’r bechgyn newydd o Ferthyr yn ymuno â’u Côr OBA lleol. I ddod o hyd i’ch côr lleol ewch i dudalen Côr OBA.
Prosiect Merthyr
Ysgol Gynradd Rhosyn Gwyn

Ysgol Gynradd Rhosyn Gwyn

Fel prosiect peilot ar gyfer ein rhaglen Aloud yn yr Dosbarth, roeddem ni eisiau rhoi cynnig ar ambell ffordd newydd o weithio i helpu athrawon cynradd yn y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â chanu gyda’r plant yn yr ystafell ddosbarth.

Enillodd y prosiect wobr yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru 2020 mewn partneriaeth â Sefydliad Hodge.

Lovely Days

Gan weithio mewn partneriaeth â phedwar darparwr gofal, dan arweiniad Fforwm Gofal Cymru, daeth aelodau Only Boys Aloud o bob rhan o Gymru a phreswylwyr gofal lleol at ei gilydd fel rhan o brosiect Lovely Days. Canlyniad y prosiect oedd tri o ddiwrnodau ‘Lovely Days Out’ pan ddaeth aelodau’r gymuned, preswylwyr y cartrefi gofal ac aelodau OBA ynghyd i rannu caneuon a pharhau â sgyrsiau a gychwynnwyd yn ystod yr ymweliadau wythnosol blaenorol â’r cartrefi gofal.

Daeth y prosiect hwn, a oedd yn pontio’r cenedlaethau, yn sgil prosiect peilot lle symudodd OBA eu hymarferion wythnosol i mewn i gartrefi gofal dros dymor y Nadolig.

Roedd y prosiect nid yn unig yn dangos bod gan gerddoriaeth y pŵer i uno pobl ar draws y cenedlaethau, roedd hefyd yn rhoi i aelodau OBA y cyfle i gyfathrebu a chymdeithasu â thrigolion y cartrefi gofal.

Medd Tim Rhys-Evans “Mae’n hawdd iawn i genedlaethau iau gael eu ‘hamddiffyn’ rhag pobl hŷn wrth i lai o bobl hŷn dderbyn gofal gartref y dyddiau yma. Yn sgil hyn, gall fod gan bobl ifanc gamargraff o bobl mewn cartrefi gofal ac mae’n hawdd iddyn nhw anghofio eu bod hwythau wedi bod yn ifanc slawer dydd, a bod ganddyn nhw brofiadau bywyd gwych, synnwyr digrifwch da, a hanesion lliwgar y maen nhw eisiau eu rhannu. Rydym ni’n gwybod bod treulio amser gyda phobl ifanc yn cael effaith ragorol ar les pobl hŷn ac mae manteision cydganu yn crynhoi holl ddiben Aloud.”

Cewch wylio crynodeb o’r prosiect ar ein Sianel YouTube.

Lovely Days
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

1 Hydref 2023
Lansiad Gorllewin Cymru Only Girls Aloud!
Bydd ein côr Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru yn cyfarfod ar gyfer eu hymarfer cyntaf!
Only Girls Aloud
10.00am
14 Hydref 2023
Ymarfer preswyl Only Kids Aloud
Only Kids Aloud