ONLY BOYS ALOUD 16-19 OED

Academi Only Boys Aloud

Ein cwrs preswyl haf uwch i aelodau OBA sy’n dangos y potensial mwyaf, neu’r rhai sy’n ystyried dilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio.

A close up of 3 Only Boys Aloud members in casual clothes

Rydym yn cynnal clyweliadau blynyddol i unrhyw rai sydd eisoes yng Nghôr Only Boys Aloud sydd â diddordeb mewn ymuno ag Academi OBA ac sydd rhwng 16 ac 19 oed.

Bob blwyddyn, mae 32 o ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn un o’r lleoedd hynod boblogaidd ar y cwrs preswyl unigryw hwn. Bydd y criw dethol lwcus yn derbyn hyfforddiant cerddorol cyffredinol fel grŵp, gwersi canu unigol a hyfforddiant canu uwch gan hyfforddwyr proffesiynol, ynghyd â pherffeithio repertoire arferol OBA.

Mae angen i fechgyn sy’n ymwneud â’r Academi fod yn barod am flwyddyn galendr brysur – nid yn unig y bydd yn rhaid iddyn nhw sicrhau presenoldeb llawn yn eu hymarferion OBA arferol, ond ymrwymo hefyd i wythnos o gwrs preswyl i fireinio eu sgiliau lleisiol a chynnal ymarfer grŵp dwys.

Rydym yn rhyfeddol o ddiolchgar i Sefydliad Mosawi am eu cymorth uniongyrchol i raglen Academi OBA.

Pam Ymuno ag Academi Only Boys Aloud?

Eich herio eich hun

Mae côr yr Academi yn perfformio repertoire mwy heriol mewn amrywiaeth ehangach o ieithoedd ac arddulliau cerddorol ac yn cynnig hyfforddiant mwy uchelgeisiol o ansawdd uwch i’r bechgyn mwyaf dawnus a phenderfynol.

Dysgu perfformio

Bydd gan fechgyn yr Academi nifer fwy o berfformiadau cyhoeddus uchel eu proffil drwy gydol y flwyddyn, a mwy o gyfrifoldeb i gynrychioli brand Aloud mewn ffordd gadarnhaol.

Llwybr at lwyddiant

Aeth llawer o gyn-aelodau’r Academi ymlaen i astudio mewn Colegau Cerdd a Conservatoires ledled y wlad.

Cyfleoedd perfformio unigryw

 O Gyngerdd y Coroni i Le Festival Interceltique de Lorient, mae aelodau ein Hacademi wedi cael cyfleoedd perfformio rhagorol.

1 Côr Uwch

Cwrs Blynyddol

32 o Aelodau

Dull Preswyl o Ddysgu

Ymunwch ag Only Boys Aloud

Dewch draw i’n hymarfer nesaf i brofi sut beth yw bod yn rhan o OBA. Rydym ni’n groesawgar, yn gyfeillgar ac yn hamddenol, ac wastad wrth ein bodd o weld wynebau newydd, felly beth am roi cynnig ar sesiwn i weld a yw at eich dant chi?

CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

9 Rhagfyr 2023
Nadolig gyda Aloud
Ymunwch ag Only Boys Aloud ac Only Girls Aloud ar gyfer detholiad o ffefrynnau'r ŵyl a chlasuron Aloud
Only Girls Aloud, Only Boys Aloud
St German's Church Metal Street, Cardiff CF24 0LA