Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Aloud
Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae Elusen Aloud wedi ymrwymo i wneud ein gwasanaethau mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.
Mae Elusen Aloud wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei gweithleoedd ac wrth ddarparu gwasanaethau. Anelwn at feithrin diwylliant sy’n gweld gwerth mewn gwahaniaeth ac sy’n cydnabod y budd y gall profiadau gwahanol a phobl o wahanol gefndiroedd ei gynnig.
Mae’r elusen yn ceisio creu, cynnal a hyrwyddo cymuned lle mae pob person yn cael ei drin yn deg ac yn gyfartal waeth beth fo’i oedran, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir cymdeithasol-economaidd.
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gynnal amgylcheddau gwaith cadarnhaol sy’n cefnogi’r naill ochr a’r llall ac sy’n rhydd rhag aflonyddu, gwahaniaethu, bwlio ac erledigaeth, lle gall staff, gweithwyr llawrydd, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr gydweithio’n gydweithredol a chynhyrchiol, a lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu’n gyfartal.
Ein nod yw bod ein gwaith yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bod pawb sy’n gweithio gyda ni yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i ffynnu.
Mae gan Elusen Aloud bolisi dim goddefgarwch mewn unrhyw achos o wahaniaethu o unrhyw fath.
I ddarllen mwy ynglŷn â’n hagweddau tuag at gorau rhyw-benodol neu enwau ein corau, cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen ein herthygl ynghylch Ein Hymrwymiad i gynnwys pobl Trawsryweddol.
Datblygwyd y gwaith hwn yn dilyn darn o Ymchwil Ymgysylltiad a Chynhwysiant a gynhaliwyd yn 2021. Gallwch ddarllen crynodeb o sut mae’r canlyniadau ymchwil wedi effeithio ar ein gwaith yma, neu drwy glicio ar y ddolen isod.
Mae Elusen Aloud wedi datblygu Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, y gallwch ei ddarllen ar ein Tudalen Polisïau neu drwy ddefnyddio’r botwm isod.
Y Fforwm Ieuenctid
Young people are at the heart of decision making at The Aloud Charity.
Our Youth Forum provides choir members with the opportunity to input into all aspects of activity and a platform to share their opinions and suggestions on the development of the charity.
Data Cyfranogwyr
Data a gasglwyd yn 2023 gan 52% o bobl ifanc o gorau Only Boys Aloud ac Only Girls Aloud.
Ein Hymrwymiad i Gynhwysiant Traws
Rydym eisiau cynorthwyo unrhyw un i fynychu’r côr y maen nhw’ teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei fynychu o ran eu hunaniaeth rhywedd.
Mae arweinwyr ein corau a’n harweinwyr cymunedol wedi’u hyfforddi i fod yn gynnil a chefnogol mewn unrhyw sefyllfa unigol. Ein nod yw bod yn ofod cynhwysol, croesawgar sy’n cefnogi gwahaniaeth a pherthyn.
Ymchwil Ymgysylltu a Chynhwysiant
Yn 2021, comisiynwyd dau ddarn o waith: un yn ymwneud ag Effaith ein Gwaith a’r llall ynghylch Ymgysylltu a Chynhwysiant.
Mae’r elusen hefyd wedi ymgynghori’n eang gyda chyfranogwyr ac arweinwyr presennol ein corau.
Rydym yn Gyflogwr Cyflog Byw
Mae sicrhau bod cyflogeion yn derbyn y Cyflog Byw yn bwysicach nag erioed o’r blaen.
Ymunwch â ni a sefydliadau eraill sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teg o dâl
"My parents were told that it is very supportive and inclusive. I am autistic and have ADHD and previously struggled with group activities. OBA has been brilliant for my confidence and self development."
“I think the main thing that stood out for me is how inclusive it is for everyone. And even though I hated my singing voice (and at times still do) and wasn’t very confident about it, it’s as if someone is just sat there saying: ‘I don’t mind how good or bad you sing, just come along to it. Have fun, socialise, and enjoy it’, rather than seeing it as a thing you have to be good at to join.”