11-19 OED
Only Boys Aloud
Cymuned hyfryd o bobl ifanc sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd, cadw traddodiadau Cymru’n fyw a dysgu sgiliau newydd.

Côr Only Boys Aloud
Mae miloedd o fechgyn wedi bod yn rhan o Only Boys Aloud ers i’r côr sefydlu yn 2010. Rydym yn chwilio am aelodau newydd o hyd. Does dim clyweliadau, a gallwch ymuno am ddim!
Dilynwch ni ar sianeli cyfryngau cymdeithasol OBA i glywed am ein cerddoriaeth, ein storïau a’n digwyddiadau diweddaraf.

Ganwyd Only Boys Aloud (OBA) o’r awydd i annog dynion ifanc Cymru i fod yn uchelgeisiol a rhoi iddynt y sgiliau i lwyddo mewn bywyd, ac mewn unrhyw yrfa. Mae’r corau lleol yn dod ynghyd bob wythnos yn ystod y tymor i gael hwyl ac ymarfer yn eu cymunedau lleol.
O gantorion profiadol i rai sydd erioed wedi rhoi cynnig arni o’r blaen, mae ein drysau wastad ar agor i aelodau newydd; gall unrhyw fachgen rhwng 11 a 19 oed ymuno. Mae OBA yn rhad ac am ddim, ac nid oes unrhyw glyweliadau na chwaith unrhyw farnu. Ein hethos yw bod yn gynhwysol; rydym ni’n agored i bawb, waeth beth yw eich cefndir.
OBA yw’r unig brosiect o’i fath yng Nghymru, a chaiff ei gynnal yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad. Mae’n ateb i’r lefelau isel o hunan-barch a dyhead sy’n aml yn rhan o brofiad bechgyn yn eu harddegau. Mae OBA yn darparu esiamplau cadarnhaol, cynyddu hyder, gwella llesiant, addysgu gwerthoedd parch ac amrywiaeth, ac yn meithrin cyfeillgarwch gydol oes.
Dan arweiniad arweinyddion corawl proffesiynol, caiff yr aelodau brofiadau cerddorol o ansawdd uchel, hyfforddiant perfformio a chyfleoedd i berfformio mewn digwyddiadau arbennig. Mae’r bechgyn yn canu repertoire amrywiol o ganeuon pop modern, darnau clasurol a cherddoriaeth gorawl draddodiadol Cymru.
Mae Cyn-aelodau OBA wedi llwyddo mewn pob agwedd ar fywyd, ac maen nhw’n cynnwys sêr theatr gerdd, gwyddonwyr, cantorion opera, cyfrifyddion a heddweision.
Pam ymuno â Chôr Only Boys Aloud?
Cynyddu Hyder
Mae ein harweinyddion corawl profiadol yn helpu ein bechgyn i ddatblygu eu hunanhyder. Boed drwy berfformio ar lwyfan, cael llinell o unawd neu ganu mewn stiwdio recordio, bydd eu hunan-barch yn disgleirio drwy eu bywyd bob dydd.
Synnwyr o Gymuned
Mae ein haelodau a’u teuluoedd yn aml yn dweud bod cymryd rhan yn ein gweithgarwch fel bod yn rhan o deulu. Rydym yn falch o gael cyfrannu pobl egnïol sy’n chwarae mwy o ran yn ein cymdeithas.
Datblygu Sgiliau
Drwy OBA, mae ein haelodau’n dysgu sgiliau bywyd sy’n eu helpu i gyflawni’u potensial, waeth pa lwybr y byddan nhw’n ei ddewis mewn bywyd. Y tu hwnt i ganu, fe fyddan nhw’n cael profiad o weithio fel tîm, rhyngweithio ag eraill a siarad yn gyhoeddus.
5 o Gorau
Dim Clyweliadau
11-19 Oed
Dim Ffioedd
GEN Z: Albwm Aloud
Mae ein tri chôr yn canu ar yr albwm: Only Boys Aloud, Only Girls Aloud ac Only Kids Aloud. Mae’r traciau’n amrywio o’r gân boblogaidd o’r West End, You Will Be Found o Dear Evan Hansen i ganeuon Cymraeg mwy traddodiadol, megis Gwinllan.
Only Boys Aloud - You Will Be Found o Dear Evan Hansen
“I moved from Manchester to North Wales in 2015, and a group of friends in my school kept telling me to come to an OBA session. Back then being a 'City Boy' I thought I was too cool to sing in a Welsh choir. Eventually to stop them nagging I went to a session. I was completely wrong in thinking it wasn't cool. Being in OBA really matured me as a person and I'm so grateful for that. I could never even have imagined the amount of wonderful experiences I have had through OBA.”
“My son started at Only Boys Aloud as a shy boy with no self-confidence and he has grown into a man who is confident around people. He has chosen music as a career thanks to the opportunities and nurture from OBA mentors. It's difficult to put into words just how much it has changed his life and how proud and thankful I am as a mother."

Academi Only Boys Aloud
Cwrs preswyl i aelodau OBA sy’n fwy o ddifrif ynglŷn â dilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio, sy’n fwy parod i ymrwymo ac sydd â’r potensial lleisiol mwyaf.

Cyn-aelodau Only Boys Aloud
Grŵp bywiog o gyn-berfformwyr a raddiodd o OBA i fynd ymlaen i astudio neu i fyd gwaith.

Fforwm Aelodau OBA
Mae Fforwm Aelodau OBA yn rhoi cyfle i’n haelodau rannu eu barn a’u hawgrymiadau, gan gryfhau’r synnwyr o berchnogaeth o’u côr.
Gwybodaeth i deuluoedd
Yma, cewch atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a gawn ynghylch ymuno â chôr, ymarferion a pherfformiadau.
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.






