Bod yn Bartner Corfforaethol
Mae gennym brofiad blaenorol da o weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau. Ac mae gennym syniadau gwych i gynnig manteision parhaol i’ch cwmni hefyd.
Mae gan Elusen Aloud brofiad o weithio gydag amryw sefydliadau, o gorfforaethau mawr i fusnesau bach lleol. Bydd partneru â ni, neu ddewis Elusen Aloud yn Elusen y Flwyddyn i chi, yn golygu y bydd eich sefydliad yn buddsoddi ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru. Os mai eisiau cyflawni eich polisi Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ydych chi, neu os ydych chi’n chwilio am well cydbwysedd yn eich gwariant ar farchnata, bydd noddi Aloud o gymorth sylweddol i’ch busnes ffynnu yn ogystal â’n helpu ni i barhau i gael effaith gadarnhaol.
Rydym yn fwy na hapus i drafod pecyn noddi pwrpasol – gan greu partneriaeth effeithiol sy’n fuddiol i chi ac i ni.
Cysylltwch â Hannah, ein Rheolwr Datblygu, i gael mwy o wybodaeth.
Manteision
Cynnig pwrpasol
Yn Elusen Aloud, dydyn ni ddim o’r farn fod yna un math o becyn a fyddai’n addas i bob busnes. Mae pob perthynas sydd gennym yn unigryw, ac mae gennym ni syniadau cyffrous i’w rhannu.
Gwerthoedd a gweledigaeth yn cydweddu
Os mai eisiau cyflawni eich amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ydych chi, neu eich bod chi’n dymuno gwneud gwahaniaeth, rydym yn hapus i drafod gyda chi ynglŷn â buddion partneriaeth ag Aloud.
Cefnogi eich cymuned leol
Mae ein cymunedau yn greiddiol i bopeth â wnawn, ac mae cefnogaeth o unrhyw fath yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion elusennol.
Gwobrau C&B Cymru 2023
Roeddem wedi gwirioni ar ôl ennill y Wobr Gelfyddydau nodedig yng Ngwobrau C&B Cymru 2023. Roedd y wobr yn cydnabod ymroddiad, brwdfrydedd ac egni Aloud wrth weithio gydag eraill i gyflawni ein huchelgeisiau. Roedd hefyd yn dathlu’r safon uchel y byddwn yn ei chyflawni’n gyson drwy ein gwaith gyda phobl ifanc ledled Cymru.
Fe gafodd partneriaeth fusnes arloesol Elusen Aloud gyda Cazbah ei chydnabod gyda Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru yn y categori Celfyddydau a Busnesau Bach! Gallwch ddarllen mwy ynghylch y bartneriaeth yma.
Bod yn Bartner Corfforaethol
Hoffech chi wybod mwy am fod yn bartner i Elusen Aloud? Cysylltwch â Hannah, ein Rheolwr Datblygu, i gael sgwrs anffurfiol am sut gallem gydweithio yn y dyfodol.
“Rydym ni’n llythrennol yn derbyn cannoedd o geisiadau am nawdd bob blwyddyn ond profiad prin iawn yw gwybod yn syth bod yn rhaid i chi chwarae eich rhan mewn prosiect. Dyma’n union ddigwyddodd pan gysylltodd Only Boys Aloud gyda ni...”