Cyfrannwch
Mae ein gweithgareddau’n hybu hunan-gred ac yn datblygu sgiliau bywyd, gan roi i blant a rhai yn eu harddegau y dyhead a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni’u potensial.
Elusen ydym ni, ac rydym yn dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr i gyflawni ein cenhadaeth. P’un a ydych chi’n penderfynu gwneud cyfraniad ariannol un tro neu’n trefnu cyfraniadau misol, rydym yn addo y bydd y cyfraniad a wnewch heddiw’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n gwaith, gan ganiatáu i ni gynllunio’n fwy hyderus at y dyfodol a rhoi i’n haelodau y profiadau a’r cyfleoedd gorau posib.
Yn ôl gwaith ymchwil, mae pob £1 a gaiff ei buddsoddi yn Elusen Aloud yn werth dros £13 i’n cymunedau lleol – fel buddsoddiad yn y dyfodol drwy eu pobl ifanc. Felly bydd eich £20 y mis yn werth mwy na £260 y mis i’r bobl ifanc yma, eu teuluoedd a’u cymunedau ehangach, a’r buddion parhaus y mae hyn yn ei roi i’r gymdeithas.
Rydym wrth ein bodd o gael ein cefnogi gan gyfeillion ym mhedwar ban byd. Er mai i gefnogwyr yn y Deyrnas Unedig yn unig y gallwn drefnu i dderbyn rhoddion drwy Ddebyd Uniongyrchol, gall cefnogwyr rhyngwladol bellach wneud Taliadau Rheolaidd o’ch cerdyn talu cysylltiedig.
Os hoffech siarad am ffyrdd eraill y gallwn gyfrannu, cysylltwch â ni.
Cyfrannwch Nawr
Cyfraniad Unigol
Cefnogwch ein gwaith drwy wneud cyfraniad ariannol unigol heddiw. Ychydig eiliadau fydd yn ei gymryd a gall wneud gwahaniaeth mawr!
Cyfrannu drwy Neges Destun
Mae cyfrannu i Elusen Aloud drwy neges destun yn ffordd gyflym a hawdd i helpu i ddarparu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc yng Nghymru.
Cyfrannu’n Rheolaidd
(Y Deyrnas Unedig)
Helpwch i wneud gwahaniaeth sylweddol drwy drefnu cyfraniadau drwy Ddebyd Uniongyrchol heddiw.
Cyfrannu’n Rheolaidd
(y tu allan i’r Deyrnas Unedig)
Gall cefnogwyr rhyngwladol gyfrannu’n gyflym a hawdd drwy ddefnyddio ein ffurflen Taliadau Rheolaidd.
Sut mae eich cyfraniad chi’n gwneud gwahaniaeth?
Hybu Cymunedau Iachach a Hapusach
Mae’n ffaith hysbys bod canu’n ffordd wych i gynnal lles corfforol a meddyliol. Mae rhieni 91% o’n cyfranogwyr hefyd yn gweld gwelliant yn lefelau hyder eu plentyn.
Cynyddu Hunan-Barch
Mae ein gweithgarwch wedi’i ddylunio’n benodol gan ystyried pobl ifanc. Rydym yn creu cymuned lle mae rhai yn eu harddegau yn gwneud ffrindiau oes, yn dod o hyd i’w llais ac yn datblygu sgiliau penodol i fanteisio’n llawn ar eu gwir botensial.
Darparu Profiadau Cerddorol Rhagorol
Rydym yn cynnig profiadau cerddorol rhagorol mewn lleoliadau arbennig ledled y byd gan rannu llwyfan ag artistiaid byd-enwog. Caiff y perfformiadau hynny eu darlledu ar draws platfformau rhyngwladol.
Creu Synnwyr o Berthyn
Mae ein haelodau a’u teuluoedd yn aml yn dweud bod cymryd rhan yn ein gweithgareddau fel bod yn rhan o deulu. Rydym yn falch o helpu pobl i chwarae eu rhan yn egnïol yn ein cymdeithas.
Ennyn Gwerthoedd Pwysig Bywyd
Mae ein gweithgareddau’n addysgu sgiliau allweddol heb farnu a heb fod yn gystadleuol, gan feithrin gwerthoedd gwaith tîm, parch a chyfrifoldeb.
Cynnig Esiamplau Cadarnhaol
Mae Arweinyddion hyfryd ein corau nid yn unig yn gerddorion proffesiynol, ond hefyd yn esiamplau cadarnhaol i’n cyfranogwyr. Mae cyn aelodau’n aml yn dod yn arweinyddion corau, gwirfoddolwyr neu ymddiriedolwyr eu hunain, gan roi’n ôl i’r elusen ac annog y genhedlaeth nesaf.
Ymaelodwch â Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac yn chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
“Yn llythrennol, fe wnaeth Elusen Aloud newid fy mywyd er gwell. Daeth ar adeg pan oedd angen gobaith arnaf i. Efallai nad oes angen yr hwb arnaf i mwyach, ond anghofiaf i fyth sut wnaeth Only Boys Aloud roi diben i mi pan oeddwn i’n meddwl nad oedd unrhyw ddiben.”