Aloud yn y Dosbarth
Ein rhaglen waith gydag ysgolion ledled Cymru.

Rydym yn gweithio gyda’r animateurs lleisiol llawrydd gorau ac arweinwyr gweithdai ledled Cymru ac mae gennym yr arbenigedd a’r hanes o ddarparu gweithdai o ansawdd uchel. Ein ffocws wrth gyflwyno gweithdai i blant a phobl ifanc yw nid yn unig technegau canu ac anadlu ond sicrhau bod y sesiynau yn hwyl, yn hygyrch ac yn ddifyr. Rydym yn cydnabod bod gan ganu fanteision y tu hwnt i’r cwricwlwm gan gynnwys meysydd eraill o fywyd yr ysgol a lles y person ifanc.
Bydd y sesiynau yn cael eu rhedeg gan weithiwr proffesiynol o’r diwydiant sydd â gwiriad DBS ac sydd â blynyddoedd o brofiad o ganu ac arwain gweithdai. Rydym hefyd yn gallu cynnig cyfle i blant a phobl ifanc gael profiad trwy weithio ochr yn ochr â chantorion a phobl greadigol eraill o’r diwydiant. Mae llawer o’n gweithwyr llawrydd yn siaradwyr Cymraeg yn rhugl felly rydym yn gallu cynnig sesiynau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Gellir addasu ein gweithdai i weddu i unrhyw thema benodol neu ofynion cwricwlwm. Rydym hefyd yn gallu addasu’r sesiynau i sicrhau eu bod yn hygyrch i bob oed a gallu gan gynnwys unrhyw ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Cysylltwch â ni i drafod pecyn pwrpasol ar gyfer eich ysgol ac i holi am bris: [email protected]
Gweithdai Canu
Annog eich disgyblion i ganu trwy sesiynau hwyliog | Addas i bob blwyddyn ysgol

Gweithdai Cyfansoddi Caneuon
Sesiwn greadigol sy’n edrych ar bob agwedd o’r broses cyfansoddi caneuon | Addas i bob blwyddyn ysgol

Prosiect Pontio
Prosiect ar gyfer darpar fyfyrwyr yr ysgol uwchradd | Addas i flynyddoedd 6 & 7

Darganfod Llais eich Staff
Sesiwn i staff eich ysgol – o gynyddu eu hyder i rannu adnoddau.
“Rwy mor falch o’r hyn y llwyddoch chi a’ch tîm ynghyd â Nerys i’w gyflawni gyda’r plant, y cyfle a roesoch chi iddyn nhw, ac ymweliad Eu Huchelder Brenhinol ar ben hynny. Rydych chi oll wedi cael effaith fawr ar ein plant a chymuned yr ysgol – dydw i ddim yn meddwl y gwawn ni byth gael diwrnod cystal eto. Bydd ein diolch byth yn ddigon.
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.
