Cefnogi Elusen Aloud
P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli mewn ymarferion wythnosol neu i’n cefnogi â rhodd, cymryd rhan mewn digwyddiad neu adael rhodd yn eich ewyllys – fe fyddwch chi’n ein helpu i roi’r cyfleoedd gorau i’r bobl ifanc rydym ni’n gweithio gyda nhw. Mae eich cefnogaeth hyfryd yn ein helpu i newid bywydau cannoedd o rai yn eu harddegau a phlant yng Nghymru.
Byddwch yn rhan o’n stori
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch chi’n rhan o stori Aloud, yn ein helpu i ddarparu profiadau cadarnhaol sy’n newid bywydau pobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodwch â Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac yn chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Gwirfoddolwch Gyda Ni
Ein gwirfoddolwyr hyfryd sy’n dal ein holl weithgarwch ynghyd. Hebddyn nhw, ni fyddai ein hymarferion a’n digwyddiadau’n bosib.
Codwch Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.
Cyfrannwch Wrth Siopa
Mae dewis Elusen Aloud wrth ddefnyddio apiau talu poblogaidd ar-lein yn golygu y gallwch anfon cyfraniad yn gyflym ac yn hawdd.
Rhodd yn Eich Ewyllys
Ewyllys yw un o’r dogfennau cyfreithiol pwysicaf y gallwch ei chreu. A gall hefyd newid bywydau er gwell.
Bod yn Bartner Corfforaethol
Mae gennym brofiad blaenorol da o weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau. Ac mae gennym syniadau gwych i gynnig manteision parhaol i’ch cwmni hefyd.
"Rwy’n credu’n angerddol mewn bod yn ddinesydd y byd ond gan ymwneud ag angor traddodiadau a hunaniaeth leol. Y peth cyntaf a wnaeth argraff arnaf i oedd cenhadaeth amlweddog Aloud sy’n darparu cyfle economaidd a chyfres o well sgiliau. Mae’n dangos angerdd a dyfalbarhad."