Ymaelodwch â Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud. Mae cefnogwyr Calon yn chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant ac maen nhw’n rhan bwysig o’n stori.
Calon | kalɔn | eb lluosog: calonnau
1. (anatomeg) canolbwynt bywyd naturiol y corff;
2. (yn ffigurol) anwyldeb, ewyllys; bod mewnol, enaid, ysbryd; gwir emosiwn, dewrder, hyder.
[O’r Gymraeg Canol “callon”]
Fel Aelod Calon, cewch brofi perthynas fwy ystyrlon â’n helusen, gan ymuno â grŵp o bobl angerddol ac ymroddgar.
Mae cyfraniad ariannol o £15 y mis neu fwy yn gwneud gwahaniaeth sylweddol go iawn, gan ein helpu i gynllunio’n fwy effeithiol at y dyfodol a chynnal rhaglen o waith o ansawdd uchel ledled Cymru.
Bydd eich cefnogaeth yn chwarae rôl allweddol yn ein gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol. Byddwch yn ein helpu i gynnal gweithgareddau cyffrous i feithrin sêr addawol y dyfodol a gwella ansawdd bywyd i bobl ifanc ledled Cymru drwy bŵer canu corawl.
Pam ymuno â’n cynllun aelodaeth?
Gwybodaeth Ddiweddaraf
Cewch fwynhau e-gylchlythyrau rheolaidd yn syth i’ch mewnflwch, a chlywed ein newyddion a’n storïau diweddaraf wrth iddynt ddigwydd.
Blaenoriaeth wrth Archebu
Cewch fod y cyntaf i glywed am ddigwyddiadau a pherfformiadau Aloud ac ymhlith y cyntaf i archebu eich sedd!
Mynediad Arbennig
Cewch y cyfle i gwrdd â’r tîm ‘y tu ôl i’r llen’ mewn ymarferion a digwyddiadau.
Diolch Personol
Cewch ddod i adnabod y tîm yn bersonol a derbyn cydnabyddiaeth mewn digwyddiadau ac mewn deunyddiau print pan fo’n berthnasol.
Ymaelodwch â Calon
Mae Aelodau Calon yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant Aloud. Mae cyfraniad rheolaidd o £15 y mis neu fwy yn ein helpu i gynllunio’n fwy effeithiol at y dyfodol a chynnal rhaglen o waith o ansawdd uchel ledled Cymru.
“Mae ymaelodi â Calon yn cefnogi plant a phobol ifainc i ganu – i lefel eithriadol o uchel – ond yn fwy na hynny mae’n creu cymuned, cyfeillgarwch oes, yn dysgu disgyblaeth ac yn llawer iawn o hwyl. I ni gefnogwyr mae’n bleser cael y cyfle I weld y bobl ifainc yn disgleirio ac yn mwynhau profiadau newydd."