Diolch!
Diolch o galon i’n holl Gefnogwyr, Cyfeillion a Noddwyr. Hebddoch chi, ni fyddai Elusen Aloud yn bodoli. Mae ein cyfeillion a’n noddwyr yn ein galluogi i gyflawni ystod eang o weithgareddau o ansawdd uchel sy’n meithrin sêr y dyfodol, gan wella ansawdd bywyd i bobl ifanc ledled Cymru drwy rym canu corawl.
Aelodau Calon
Diolch o galon i aelodau ymroddedig ein cynllun Calon. Mae eu cyfraniadau personol yn ein helpu i gynllunio’n fwy effeithiol at y dyfodol. Mae aelodau Calon yn chwarae rôl allweddol yn ein gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol, ac ni allem wneud yr hyn a wnawn hebddyn nhw.
Cyfranwyr Rheolaidd
Diolch o galon i’r holl unigolion sy’n cefnogi ein gwaith parhaus. Boed yn rhodd unigol mewn digwyddiad neu’n gyfraniadau rheolaidd bob mis, gwerthfawrogwn bob un rhodd a dderbyniwn. Gwnawn ddefnydd da o bob ceiniog a gawn, gan wneud yn siŵr ein bod ni’n darparu’r cyfleoedd gorau posibl i’r bobl ifanc rydym ni’n gweithio gyda nhw.
Ymddiriedolaethau a Sefydliadau
Mae Elusen Aloud yn falch o fod yn gweithio gyda mwy nag 20 o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau sydd wedi hen ennill eu plwyf ac sy’n ariannu rhan sylweddol o’n costau craidd a’n prosiectau. Rydym yn ddiolchgar iawn am y grantiau a dderbyniwn sy’n dod â’n prosiectau’n fyw.
Hoffem ddiolch i’r sefydliadau allweddol canlynol am eu cefnogaeth benodol a sylweddol yn y flwyddyn ariannol hon:
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.