Darparu profiadau a all newid bywydau i bobl ifanc yng Nghymru drwy bŵer cydganu.
Ein Cenhadaeth
Mae ein gweithgareddau’n hybu hunan-gred ac yn meithrin talent, gan roi i blant a rhai yn eu harddegau y dyhead, y sgiliau bywyd a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i gyflawni’u potensial.
Rydym yn datblygu sgiliau ac uchelgeisiau pobl ifanc yng Nghymru er mwyn creu aelodau o’r gymdeithas sy’n hapusach, yn iachach ac yn fwy parod i chwarae eu rhan. Gan ddefnyddio pŵer cydganu, rydym yn darparu hyfforddiant cerddorol o ansawdd uchel ac yn addysgu technegau perfformio sy’n ennyn angerdd at y celfyddydau ac yn gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
11-19 oed
Corau Only Boys Aloud
Cymuned hyfryd o bobl ifanc sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd, cadw traddodiadau Cymru’n fyw a dysgu sgiliau newydd.
11-16 oed
Only Girls Aloud
Only Girls Aloud yw’r côr mwyaf newydd i ymuno â’r teulu Aloud. Gan weithio gyda merched yn eu harddegau, mae’r grŵp ysbrydoledig hwn yn cynnig cyfleoedd canu ac yn croesawu siaradwyr gwadd benywaidd i bob ymarfer.
9-12 oed
Corws Only Kids Aloud
Term ymbarél yw Only Kids Aloud am y rhaglen o weithgarwch sydd wedi’i llunio i ferched a bechgyn mewn ysgolion cynradd. Mae Corws OKA a rhaglen Aloud in the Classroom ill dwy yn elfennau craidd o’r prosiect.
ABOUT US
Sefydliad celfyddydol ydym ni sydd â ffocws cymunedol cryf
Gan gynnal gweithgareddau ledled Cymru, cofleidiwn draddodiadau canu corawl er mwyn gwella lles ein cyfranogwyr, a rhoi sgiliau gwerthfawr a chyfleoedd cyffrous i’n haelodau ifanc.
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.