Rydym yn Gyflogwr Cyflog Byw

Yn Elusen Aloud rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw.

Mae costau byw yn y DU ar y gyfradd uchaf ers degawdau gyda miliynau o weithwyr ar gyflogau isel a’u teuluoedd yn teimlo effaith biliau cynyddol. Mae’r mudiad Cyflog Byw yn ganolog yn yr ymdrech i sicrhau rhywfaint o ryddhad wrth i ni wynebu’r argyfwng hwn gyda’n gilydd.

Mae Elusen Aloud yn rhan o rwydwaith cynyddol o dros 11,000 o sefydliadau, busnesau a phobl sydd wedi ymrwymo i ddarparu Cyflog Byw i’w gweithwyr.  Wythnos Cyflog Byw 2022 (14-20 Tachwedd) yw dathliad blynyddol mudiad Cyflog Byw sydd wedi codi bron i 400,000 o bobl mewn gwaith allan o dlodi.

“Mae’n bwysig i ni yn Elusen Aloud ein bod ni’n talu pobl yn iawn am y gwaith mae nhw’n eu gwneud. Mae’n tîm yn allweddol i lwyddiant ein sefydliad ac un o’r ffyrdd rydym yn cydnabod hyn yw trwy eu talu’n briodol am y gwaith. Rydym yn falch iawn o gael ein achredu fel cyflogwr Cyflog Byw, yn y cyfnod hwn o anhawster economaidd, gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i’n tîm ein bod wedi ymrwymo iddyn nhw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad at ein gwaith gyda phobl ifanc ledled Cymru” Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr, The Aloud Charity

Mae holl staff llawrydd Elusen Aloud yn cael eu talu’n unol â chyfraddau Undeb y Cerddorion. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gyflogwr cystadleuol ac yn gallu cefnogi’r gymuned o weithwyr llawrydd yng Nghymru yn dilyn effeithiau ariannol pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw parhaus.

Mae sicrhau bod cyflogeion yn derbyn y Cyflog Byw yn bwysicach nag erioed o’r blaen.

Ymunwch â ni a sefydliadau eraill sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teg o dâl: https://www.livingwage.org.uk/become-a-living-wage-employer