Cyn-aelodau Aloud
Mae ein cynllun Cyn-aelodau yn agored i rai sydd wedi bod yn aelodau o'n corau Aloud, sydd wedi graddio o Only Boys Aloud, Only Girls Aloud neu Only Kids Aloud.
Cwrdd â'r Cyn-aelodau
Dewch i gwrdd ag Elliot, ein Cynghorydd Cyn-aelodau
Mae Elliot Howells yn gyn-aelod o OBA, yn aelod Calon ac yn un o gyn-ymddiriedolwyr Elusen Aloud. Yn dilyn ei gyfnod fel ymddiriedolwr, mae Elliot nawr yn ein helpu i ddatblygu mentrau ar gyfer cyn-aelodau.
“Having been both a beneficiary and a Trustee of The Aloud Charity, I know first hand the impact that every pound makes to Aloud. I have felt and seen the impact Aloud has on young people and the musical landscape of Wales and I want to make sure that their work continues for decades to come.”
“My highlight as a member of OBA was singing the final note of Calon Lan during the final of Britain’s Got Talent. Not only because being on a national TV show was pretty exciting, but because an audience of literally millions of people got to experience the power of a choir belting an iconic Welsh hymn! In OBA’s first performance in 2010.”
Llysgennad Ieuenctid Gwirfoddol
Os ydych wedi cael budd drwy waith Aloud ac yn awyddus i barhau i gymryd rhan, gallai hwn fod y cyfle perffaith i chi!
Mae ein rolau Llysgennad Ieuenctid Gwirfoddol yn rhan bwysig o ddyfodol Aloud. Os ydych eisiau’r cyfle i gynrychioli Aloud mewn digwyddiadau Aloud a chwrdd â’r genhedlaeth nesaf o aelodau Aloud mewn gwahanol ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn…
Yn 2019, daeth Callum Scott Howells yn Llysgennad Ieuenctid cyntaf Aloud.
Dyma Callum yn darllen y gerdd ‘Open Door’ gan Rhiannon Oliver, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer cyfres ddogfen Aloud a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 2022.
Mae’r gerdd yn pwysleisio pwysigrwydd cyfle i bobl ifanc ar hyd a lled Cymru.
Gallwch wylio clip o un o’r caneuon o’r gyfres, a recordiwyd yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, yma.
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.