Gadael Gwaddol Gwych

Y rhodd hyfrytaf y gallwch ei gwneud i ddiogelu dyfodol Elusen Aloud.

Eich Ewyllys yw un o’r dogfennau cyfreithiol pwysicaf y gallwch ei chreu. Ond nid oes yn rhaid iddi fod yn gymhleth na chostus, ac nid oes yn rhaid iddi gymryd llawer o amser. Mae hyd yn oed gennym ni wasanaeth am ddim i’ch helpu i gychwyn arni.

Drwy gofio am Elusen Aloud yn eich ewyllys, byddwch yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n nodau elusennol, ac yn rhoi i’r bobl ifanc y gweithiwn gyda nhw brofiadau bythgofiadwy a fydd yn newid eu bywydau.

Bydd rhodd o unrhyw faint yn cyfrannu at gymdeithas hapusach, iachach a chryfach yn y dyfodol, gan ganiatáu i genedlaethau o bobl ifanc ledled Cymru yn y dyfodol gynyddu eu hunan-gred, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau oes.

Pa well ffordd i ddathlu eich cariad at gerddoriaeth, eich angerdd at Gymru, neu eich cred mewn dyfodol gwell i’n pobl ifanc…

Sut i adael rhodd yn eich ewyllys

Mae’n hawdd i’w wneud, ond rydym yn argymell cael cymorth gan gyfreithiwr, fel ein partneriaid elusennol JNP Legal, i sicrhau bod eich rhodd yn ein cyrraedd yn ddiogel. Y prif fanylion i’w cynnwys yw eich enw, cyfeiriad cofrestredig ein helusen a’n rhif elusen:

Elusen Aloud
Cyfeiriad Cofrestredig yr Elusen: Tŷ Derw, Lime Tree Court, Parc Busnes Porth Caerdydd, Caerdydd, CF23 8AB.
Rhif Elusen Gofrestredig 1147922

Os hoffech wybod mwy am adael rhodd yn eich Ewyllys, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r broses, mae croeso i chi gysylltu â ni. Os ydych eisoes wedi cyfeirio at Elusen Aloud yn eich ewyllys, gofynnwn i chi roi gwybod i ni er mwyn i ni allu cydnabod eich rhodd yn y ffordd fwyaf priodol.

Ein Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim

Fel cefnogwr Elusen Aloud, rydym eisiau cynnig y cyfle i chi ysgrifennu neu addasu Ewyllys syml yn rhad ac am ddim. Mae’n gyfle gwych i greu eich Ewyllys gyntaf, neu ddiweddaru eich Ewyllys bresennol, heb boeni am y gost. Nid oes rheidrwydd arnoch i adael rhodd i Elusen Aloud os ydych yn defnyddio ein gwasanaeth, ond byddem wrth ein bod petaech chi.

Mae ein Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim yn cael ei reoli gan ein partneriaid JNP Legal. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gefnogwyr ledled y Deyrnas Unedig a gall apwyntiadau gael eu cynnal dros alwad fideo. I gael mwy o wybodaeth am hyn, cymerwch olwg ar ein cyfweliad â JNP Legal fan yma.

Llenwch y ffurflen fer hon a chewch alwad ffôn oddi wrth ein partner yn fuan i drefnu apwyntiad.