Gwirfoddoli Gyda Ni

Mae gwirfoddolwyr yn aelodau pwysig o Deulu Aloud ac ni allem wneud popeth a wnawn hebddyn nhw. Dysgwch sut gallwch chi wirfoddoli.

O Ymddiriedolwyr i Arweinyddion Cymunedol, rydym ni’n dibynnu ar ein gwirfoddolwyr hyfryd yn ddyddiol. Fel elusen sy’n cael ei gyrru gan ein cymunedau, mae cymaint o ffyrdd y gallech chwarae eich rhan, o ddosbarthu copïau caneuon i roi help llaw yn ein swyddfeydd! Boed yn eiliadau neu fisoedd, oriau neu ddyddiau, mae’r amser a rowch wir yn gwneud gwahaniaeth.

Oes gennych chi syniad diddorol am sut gallwch chi ein cefnogi? Cysylltwch â ni – rydym ni wrth ein bodd yn clywed eich awgrymiadau.

Codi Arian

Mae codi arian i Elusen Aloud yn cefnogi pob elfen o’n gwaith ac mae’n ffordd hyfryd i wneud gwahaniaeth! Os cewch eich ysbrydoli i wynebu her neu gymryd rhan mewn digwyddiad noddedig, cysylltwch â ni i gael syniadau, cyngor ac awgrymiadau am sut i sicrhau eich bod yn llwyddiannus. Gallwch fynd i’n tudalen Codi Arian i gael mwy o wybodaeth a syniadau.

Ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr

Os oes gennych chi brofiad neu sgiliau gwerthfawr i’w cynnig, fe allech chi chwarae rhan ragorol ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Pan fyddwn ni’n recriwtio, bydd gwybodaeth ar gael ar ein tudalen Swyddi Gwag. I gael unrhyw fanylion eraill, cysylltwch â ni.

Arweinyddion Cymunedol

Bob tro rydym ni’n cynnal ymarfer (boed yn 6 neu’n 250 o aelodau yn eu harddegau!) mae arnom angen Arweinyddion Cymunedol. Nhw sy’n dal yr ymarferion lleol at ei gilydd, ac maen nhw’n darparu cymorth hanfodol mewn digwyddiadau ym mhob rhan o’r elusen, yn ogystal â darparu gofal bugeiliol i’n cyfranogwyr. Mae gennym ni dîm hyfryd o Arweinyddion Cymunedol ledled Cymru a gwerthfawrogwn eu holl waith caled yn fawr iawn.

Felly pam gwirfoddoli gydag Elusen Aloud?

Cefnogi eich cymuned leol

Rydym ni’n cynnal ymarferion wythnosol ledled Cymru, mewn clybiau chwaraeon, neuaddau pentref ac eglwysi. Mae ein Harweinyddion Cymunedol yn rhan hanfodol o’n gallu i gynnal sesiynau’n llwyddiannus!

Cwrdd â phobl o gyffelyb fryd

Wrth wirfoddoli gydag Aloud, rydych chi’n dod yn rhan o’r teulu, boed yn cefnogi aelodau yn eu harddegau mewn ymarferion côr wythnosol, yn helpu mewn digwyddiadau neu’n cynghori ein tîm fel rhan o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Magu profiad gwerthfawr

Mae gwirfoddoli fel rhan o’n tîm nid yn unig yn rhoi dealltwriaeth o fyd y celfyddydau perfformio a’r byd elusennol, ond gallai hefyd eich helpu i feithrin sgiliau newydd a bydd yn sicr yn rhoi profiadau bywyd ystyrlon a diddorol i chi!

Proffil Gwirfoddolwr - Pat

Darllenwch am brofiad yr Arweinydd Cymunedol Pat Ashman yn gwirfoddoli gyda Aloud

Proffil Gwirfoddolwr - Ade

Darllenwch am brofiad yr Arweinydd Cymunedol Ade Evans yn gwirfoddoli gyda Aloud

Proffil Gwirfoddolwr - Sara

Darllenwch am brofiad yr Arweinydd Cymunedol Sara Jones yn gwirfoddoli gyda Aloud