
Llysgennad
Amy Wadge
Bywgraffiad
Bu Amy yn perfformio a rhyddhau cerddoriaeth am dros 20 mlynedd. Oherwydd ymarferoldeb cyfuno bywyd teuluol a cherddoriaeth, mae Amy wedi bod yn treulio mwy o amser yn cyfansoddi ar y cyd ag artistiaid eraill. A hithau’n un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf toreithiog Prydain, enillodd Amy wobr Grammy ar ôl cyd-gyfansoddi cân hynod lwyddiannus Ed Sheeran, ‘Thinking Out Loud’.
Yn ddiweddar, gwnaeth Amy gyfansoddi a recordio chwech o ganeuon gwreiddiol i ddrama boblogaidd BBC Cymru, ‘Un Bore Mercher’ / ‘Keeping Faith’. Enillodd “Cân Faith”, arwyddgan y gyfres hon, wobr Bafta Cymru.
Bu Only Boys Aloud yn ffodus iawn i gael gweithio gydag Amy ar nifer o brosiectau ychwanegol. Yn fwyaf nodedig, Prosiect Merthyr, Prosiect Fitzalan a pherfformiad arbennig yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru 2019. Roedd OBA hefyd wrth eu boddau o gael perfformio gydag Amy yng Nghyngerdd Nadolig Rhithwir Aloud.
