
Arweinydd Côr
Jess Robinson
Bywgraffiad
Soprano ydw i, ac mae gen i radd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’r profiadau mwyaf cofiadwy i mi ers ymuno ag Aloud yn cynnwys arwain côr Kumamoto ar gyfer prosiect Japan, bod yn diwtor lleisiol yn ystod wythnos Academi Only Boys Aloud a gweithio gyda phrosiect Only Girls Aloud yn Ysgol Fitzalan yng Nghaerdydd.
Rwy wedi bod wrth fy modd yn gweld OBA yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf ac yn arbennig gweld sut mae pawb wedi addasu i ddysgu’n rhithwir dros gyfnod y pandemig. Mae bod yn rhan o Aloud yn llawenydd mawr.
Cysylltwch â Ni
Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.
