Arweinydd Côr

Aled Powys Williams

Cysylltwch â Ni

Brodor o Ddyffryn Aman yw Aled, ac mae ganddo radd o CBCDC yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â’i yrfa canu, mae’n animateur lleisiol medrus a phrofiadol ac wedi gweithio’n helaeth i amryw sefydliadau fel y British Council, BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Bu’n rhan o dîm Aloud ers sefydlu Only Boys Aloud ac yn 2013, cafodd Aled y fraint o arwain y bechgyn ochr yn ochr â Katherine Jenkins i gloi Gŵyl y Coroni ym Mhalas Buckingham.

Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.