Does dim rhaid i ti ddewis rhwng y pethau rwyt ti’n eu caru
Mae rygbi wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Joel erioed: hyfforddi ar nos Iau, gemau ar ddydd Sadwrn, y tîm, yr adrenalin a’r gystadleuaeth. Ond ochr yn ochr â rygbi, mae cerddoriaeth wedi bod yno hefyd, o wersi piano a’r gerddorfa i ganu gydag Only Boys Aloud.
Mae’r rhain yn ddau fyd na fyddai pobl o reidrwydd yn eu cysylltu ar unwaith, ond dydy Joel erioed wedi gweld pam y dylai orfod dewis rhyngddyn nhw.
“Rydw i wedi rhoi rygbi yn gyntaf i mi. Dydy hynny ddim yn golygu fy mod i wedi gwneud llai gyda cherddoriaeth. Fi jyst wedi trefnu cerddoriaeth o gwmpas rygbi.”
Roedd gwersi piano ar ddiwrnodau pan nad oedd ganddo hyfforddiant, tra bod cyngherddau’r gerddorfa ar nos Wener yn dal i adael dydd Sadwrn yn rhydd ar gyfer rygbi. Llwyddodd i wneud i’r ddau beth weithio oherwydd bod y ddau yn bwysig iddo, ac mae hynny’n rhywbeth mae Joel yn teimlo’n gryf amdano.
“Mae gan bob un ohonon ni ddiddordebau gwahanol. Ond ddylen ni ddim rhoi un diddordeb o’r neilltu dim ond i ffitio i mewn.”
I fachgen ifanc sy’n caru rygbi, pêl-droed, gemau cyfrifiadurol neu unrhyw beth arall sy’n gallu ymddangos yn bell iawn o fyd côr, mae stori Joel yn dangos nad oes rhaid i un diddordeb gymryd lle un arall. Mae gen ti hawl i fod yn fwy nag un peth.
Rygbi. Côr. Y ddau Joel.

Mwy sydd gennym yn gyffredin nag y byddet ti’n meddwl
Efallai bod cae rygbi a llwyfan cyngerdd yn edrych yn hollol wahanol, ond i Joel, gall y teimlad o gamu allan arnyn nhw fod yn debyg iawn. Cyn gêm rygbi fawr, mae yna nerfau, cyffro ac adrenalin. Mae’r un peth yn digwydd cyn perfformiad.
“Mae’r adrenalin yna i gyd ynoch chi hefyd. Ond mae’r un peth yn digwydd pan fyddwch chi’n camu allan o flaen llwyfan.”
Ac yna mae’r tîm. Mewn rygbi, mae gan bawb ei rôl. Rydych chi’n dibynnu ar y bobl o’ch cwmpas ac maen nhw’n dibynnu arnoch chi. Sylweddolodd Joel yn gyflym fod canu mewn côr yn gweithio yn yr un ffordd fwy neu lai.
“Os na allwch chi weithio fel tîm mewn tîm rygbi, mae popeth yn mynd i ddisgyn yn ddarnau. Mae yr un peth mewn côr. Mae gennych chi eich rhan chi i’w chanu, ac os ydych chi’n gwneud rhywbeth o’i le, mae’n mynd i wrthdaro â’r adrannau eraill.”
Mae Only Boys Aloud hefyd wedi rhoi cyfleoedd i Joel na allai fod wedi’u rhagweld pan ymunodd gyntaf. Trwy Aloud ac Academi, mae wedi perfformio mewn lleoliadau anhygoel, teithio i Ffrainc a’r Iseldiroedd, canu’n fyw ar deledu Ffrainc mewn stadiwm bêl-droed a pherfformio unawdau.
Daeth un o’i atgofion mwyaf pwerus yn ystod perfformiad mewn eglwys gadeiriol yn yr Iseldiroedd. Cyrhaeddodd y côr saib, ond parhaodd y sain i atsain o gwmpas yr adeilad.
“Roedd yn atsain am ddeg eiliad da. Doedd e jyst ddim yn stopio. O’n i fel, ‘O fy Nuw, mae hyn yn wallgof.’”
Mae hefyd yn cofio ei gyngerdd cyntaf gydag Only Boys Aloud, y gymeradwyaeth a’r teimlad o berfformio fel rhan o rywbeth mor fawr am y tro cyntaf. Fyddai e byth wedi cael y profiadau hynny petai wedi penderfynu bod bod yn chwaraewr rygbi yn golygu nad oedd canu ar ei gyfer.


Magu’r hyder i roi cynnig arni
Dydy Joel ddim yn meddwl amdano’i hun fel rhywun sy’n hyderus yn naturiol. Pan awgrymodd Craig (Cyfarwyddwr Creadigol) iddo am y tro cyntaf y dylai gael clyweliad ar gyfer unawd, roedd ei ateb yn glir iawn.
“Na. Dim siawns.”
Ond roedd pobl yn Aloud yn gweld rhywbeth ynddo. Yn ystod ei wers ganu unigol gyntaf, mae’n cofio cael clywed:
“Mae gen ti lais hyfryd, man. Dos i gael clyweliad ar gyfer unawd.”
I Joel, roedd clywed rhywun arall yn dweud hynny yn bwysig.
“Mae’n enfawr. Bydd dy rieni wastad yn dy gefnogi di ac yn dy annog, ond i glywed hynny gan rywun arall, rhywun nad wyt ti erioed wedi’i gyfarfod o’r blaen, mae hynny’n rhywbeth mawr iawn.”
Yn y diwedd, aeth Joel i’r clyweliad, a chafodd yr unawd. Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i berfformio unawd arall yn yr Iseldiroedd.
Fe wnaeth y ffydd oedd gan bobl eraill ynddo ei helpu i fagu mwy o ffydd ynddo’i hun, ac mae hynny’n rhywbeth mae bellach yn ei drosglwyddo i aelodau iau Aloud. Yn 21 oed, mae Joel yn un o’r aelodau hŷn. Mae bechgyn newydd yn gofyn iddo sut fydd ymarferion, sut beth yw Academi a beth i’w ddisgwyl o’u cyngerdd cyntaf.
Mae’n deall y nerfau hynny oherwydd ei fod wedi bod yno ei hun.
“Dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae rhywun yno wastad i’ch helpu chi.”
Roedd Joel wedi meddwl mai hon fyddai ei Academi olaf eleni. Roedd yn meddwl tybed a oedd hi’n amser camu o’r neilltu a gadael i’r bechgyn iau gael eu tro. Yna aeth yn ôl.
“Fi jyst wedi anghofio cymaint rydw i’n mwynhau e. Felly o’n i fel, ie, na, dw i ddim wedi gorffen eto.”

Yr Hawl i Fod yn Fwy nag Un Peth
Mae yna fechgyn ledled Cymru ar hyn o bryd sy’n caru canu ond efallai na fydden nhw byth yn dweud hynny wrth eu ffrindiau. Bechgyn sy’n chwarae rygbi neu bêl-droed ac yn meddwl nad yw côr yn cyd-fynd â hynny. Bechgyn sy’n eistedd yn eu hystafelloedd gwely yn chwarae gemau ac a fyddai wrth eu bodd gydag Only Boys Aloud petai modd iddyn nhw ddod drwy’r drws ar gyfer yr ymarfer cyntaf hwnnw.
Mae Joel yn gwybod yn union beth fyddai’n ei ddweud wrthyn nhw.
“Does dim drwg mewn rhoi cynnig arni. Does dim cywilydd o gwbl.”
Dydy rhoi cynnig ar rywbeth newydd ddim yn newid pwy wyt ti. Dydy canu ddim yn golygu nad wyt ti’n chwaraewr rygbi bellach, a dydy perfformio ddim yn golygu nad wyt ti’n gamer. Does dim rhaid i ti roi’r gorau i un rhan ohonot ti er mwyn archwilio rhan arall.
Ac os wyt ti’n rhoi cynnig arni ac yn darganfod dy fod ti wrth dy fodd, mae gan Joel un darn o gyngor:
Wrth edrych yn ôl ar bopeth mae canu wedi’i roi iddo — y cyfeillgarwch, y perfformiadau, y teithio, yr hyder a’r profiadau — mae Joel yn gwybod beth fyddai wedi’i golli petai wedi cerdded i ffwrdd.
Felly, i’r bachgen sy’n darllen hwn ac yn meddwl nad yw’n edrych fel rhywun fyddai’n ymuno â chôr, sy’n poeni beth fyddai ei ffrindiau’n ei feddwl, neu sydd ddim yn siŵr a yw canu ar ei gyfer e, does dim amheuaeth am neges Joel:
“Cer mas o dy ystafell, dere i ganu.”
Does dim angen i ti ddewis. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o ganu mewn côr, a does dim angen i ti fod yn un peth yn unig.
Mae Only Boys Aloud yn rhad ac am ddim i ymuno, heb glyweliadau. Dere draw, cwrdd â’r bechgyn a darganfod ble all canu fynd â ti.






