Taith côr Academi OBA i’r Iseldiroedd

Academi OBA

Yn dilyn cwrs preswyl Academi Only Boys Aloud eleni, cafodd aelodau Academi 2026 gyfle anhygoel i deithio i’r Iseldiroedd ar daith gyngerdd fer.

Gadawodd y bws Gaerdydd yn oriau mân y bore ac, er gwaethaf ambell lygad blinedig, wyneb cysglyd (a drama fach gyda phasbort!), cawsom daith wych ar y bws ac ar y fferi, drwy Calais, i Utrecht, lle’r oeddem yn aros yn ystod ein hamser yn yr Iseldiroedd.

Ar ôl noson dda o gwsg a brecwast swmpus, teithion ni ar y trên i Amsterdam, prifddinas yr Iseldiroedd. Treulion ni’r bore ar daith mewn cwch ar y camlesi, ac roedd gan y bechgyn ychydig o amser rhydd (pan gafodd gryn dipyn o stroopwafel eu bwyta!) cyn teithio i Zeist ar gyfer ein cyngerdd cyntaf.

Cyn y cyngerdd, cawsom weithdy gydag aelodau o Academi Voice Worx, lle buon ni’n eu dysgu i ganu’r corws o’r gân Gymraeg enwog, Yma o Hyd, ac yna fe wnaethon ni berfformio Bella Ciao gyda’n gilydd. Wedyn, cawsom swper gyda’n gilydd a chyfle i sgwrsio a dod i adnabod ein gilydd. Roedd y lleoliad hardd dan ei sang ar gyfer ein cyngerdd, a chawsom groeso cynnes iawn gan y gynulleidfa!

Y bechgyn yn cyrraedd Calais
Wrth gamlesi Amsterdam!

Cafodd ein hail gyngerdd ei gynnal yn ninas Den Bosch, tua 45 km i’r de o Utrecht. Mae gan y ddinas gysylltiadau â Chymru, gan iddi gael ei rhyddhau o feddiannaeth yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan Adran 53ain Troedfilwyr Cymru.

Cafodd y bechgyn daith o’r Eglwys Gadeiriol a’r ddinas, a dysgon nhw fwy am hanes yr ardal a rôl milwyr Cymru yn y rhyddhad. Wedyn, cawson ni flasu’r gacen enwog, Bosche Bol (a oedd, yn ôl Craig, y gacen orau iddo erioed ei bwyta!).

Yna cawsom berfformiad yn Eglwys Gadeiriol hardd Sant Ioan. Doedd y bechgyn ddim yn gallu credu pa mor enfawr oedd yr eglwys gadeiriol, na pha mor hir oedd yr atsain wrth iddyn nhw ganu! Unwaith eto, roedd yr eglwys gadeiriol dan ei sang ar gyfer ein perfformiad, ac roedd y gynulleidfa wrth eu bodd.

Dywedodd un aelod o’r gynulleidfa:

“Roedd eich perfformiad gwych wedi fy nghodi a gwneud i mi deimlo mor hapus. Rwy’n eich cymeradwyo chi, fechgyn ifanc, am eich dyfalbarhad, eich talent a’r ysbryd rydych chi’n ei gyfrannu at gerddoriaeth yn gyffredinol, ac a ddaethoch chi ag ef i Den Bosch ar 25 Gorffennaf.”

Cawsom amser gwych yn yr Iseldiroedd ac hoffem ddiolch yn fawr i Taith, y rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, am wneud y daith yn bosibl.

Lleoliad y cyngerdd yn Zeist
Perfformio yn Eglwys Gadeiriol Sant Ioan yn Den Bosch

Dyma beth oedd gan aelodau Academi 2026 i’w ddweud am y daith i’r Iseldiroedd:

“Ar y cyfan, roedd yn brofiad gwych, a chael gweld a dysgu am ba mor agos mae Cymru a’r Iseldiroedd yn gysylltiedig.”

“Roedd yn brofiad anhygoel – mae wedi fy helpu i fagu mwy o hyder i deithio ymhellach oddi cartref.”

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn brofiad a newidiodd fy mywyd, ac yn daith y byddaf yn ei chofio am byth. Rwy’n credu mai’r rheswm am hynny oedd pa mor wych oedd yr ymdeimlad o gymuned.”

Eisiau bod yn rhan o’r cyfan? Rydyn ni BOB AMSER yn chwilio am aelodau newydd. Dysgwch fwy am eich corau agosaf a sut i ymuno YMA.

Share Article:

Read another article...

Aloud To Be (1)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Joel
Aloud To Be (3)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Rhodri
Aloud To Be (2)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Iestyn
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.