Rheolwr Cyllid

Jarrad Jones (fe)

Bywgraffiad

Graddiodd Jarrad o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Cyllid Busnes, a dechreuodd ei yrfa mewn cyllid yn Tata Steel. Daeth yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig yng Ngorffennaf 2019. Wedi hyn, treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi cyllid mewn sectorau gwahanol, yn cynnwys y sector modurol, gwasanaethau ariannol a seiberddiogelwch.

Ymunodd Jarrad gydag Aloud yn Rhagfyr 2023, ac mae o wrth ei fodd bod yn rhan o dîm sy’n gweithio ar y cyd gyda chenhadaeth gyffredin. Mae’n cael pleser mawr wrth gyfrannu at yr effaith drawsnewidiol y mae gwaith Aloud yn ei gael ar fywydau pobl.

Mae Jarrad wrth ei fodd yn teithio, ac mae’n rhedeg ei fusnes teithio ei hun ochr yn ochr â’i rôl gydag Aloud.

Cysylltwch â Ni

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.