Arweinydd Côr
Iori Haugen
Bywgraffiad
Mae Iori Haugen yn gerddor proffesiynol profiadol sydd â phortffolio o yrfa yn cwmpasu sawl disgyblaeth. Mae’n ddrymiwr, cynhyrchydd, cyfarwyddwr corawl ac arbenigwr y celfyddydau mewn iechyd. Mae’n aml yn dweud mai i’w amser yn Only Boys Aloud y mae’r diolch am ei yrfa gerddorol lwyddiannus, ac yntau’n un o’r aelodau gwreiddiol. Y mae bellach yn arweinydd côr profiadol i Elusen Aloud, ac yn parhau i gynnig ei angerdd a’i egni i’r tîm er mwyn galluogi cenhedlaeth iau i ffynnu.
Cysylltwch â Ni
Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.