Mae’r flwyddyn diwethaf wedi bod yn un anodd, gyda llawer o newidiadau’n digwydd i sicrhau goroesiad Aloud. Mae wedi bod yn heriol yn bersonol ac yn broffesiynol wrth i benderfyniadau a wnaed i ddiogelu Aloud effeithio ar gymaint o unigolion mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Ond credwn y bydd y penderfyniadau a wnaethom yn atgyfnerthu Aloud i’r dyfodol.
Mae’r chwe mis diwethaf wedi ein galluogi i fyfyrio ar bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi gallu gwneud ymchwil ac wedi mireinio’n cynnig. Rydym wedi edrych ar ein gwerthoedd a’n cenhadaeth craidd. Ac rydym wedi penderfynu bod yn fwy main, yn fwy ystwyth, ac wedi ein gwreiddio’n fwy mewn cymunedau.
Mi fydd beirniadaeth o hyn. Mae yna bobl yn gofyn pam nad ydym bellach yn gweithio gyda merched yn benodol pan bod ganddynt anghenion gwahanol i fechgyn.
A bydd yna bobl yn pendroni pam nad ydyn ni bellach yn gweithio ledled Cymru pan mae’r angen yn amlwg dal yno.
Mewn ateb i’r ail bwynt, ni allwn fforddio weithio ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae angen i ni ffeindio’n ffordd eto a thyfu model yn organig mewn ardaloedd yr ydym yn eu hadnabod yn dda. Bydd hyn yn cymryd amser, ond mae angen i ni sicrhau bod ein model yn gweithio’n gyntaf cyn tyfu eto. Ni fydd yn broses gyflym, ond bydd yn un trylwyr, i sicrhau nad ydym yn ffeindio’n hunain yn yr un sefyllfa ag y gwnaethom yn gynnar yn 2024.
Mae ateb y cwestiwn cyntaf (pam bechgyn?) yn syml iawn i ni.
Yn gyntaf, cawsom ein sefydlu fel sefydliad i roi llais i fechgyn a chefnogi traddodiad corau meibion Cymru. Nid oedd yr uchelgeisiau hyn wedi diflannu, ond mi gysgodwyd gan ein prosiectau eraill, gydag arian ac ymdrech yn cael eu cyfeirio i ffwrdd o’r genhadaeth hon.
Mae digon o ymchwil wedi’i gyhoeddi am fanteision canu. Mae’n lleihau straen a phryder, yn rhoi ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad i bobl, yn cefnogi ffurfiant hunaniaeth a hunanhyder, yn hwyluso hunanddatblygiad a ffyrdd o ymdopi ag emosiynau negyddol, yn ogystal â bod yn brofiad dyrchafol, gan hyrwyddo hapusrwydd a lles. Fel gweithgaredd ystyriol, mae canu’n cynyddu ffocws ac yn hybu hunan-barch, gan adeiladu cymunedau cydlynus trwy ymdeimlad o gynhwysiant a chymdeithas. Felly, rydyn ni eisiau i gymaint o bobl ifanc â phosib ganu gyda ni.
Mae hefyd yn dod i’r amlwg taw bechgyn yn eu harddegau sydd wedi’u taro galetaf gan gyfnodau clo Covid-19 gydag astudiaethau’n dangos bod iechyd meddwl bechgyn yn eu harddegau wedi’i effeithio’n fwy niweidiol yn yr hir dymor na merched yr un oed. I’r rhai symudodd rhwng yr ysgol gynradd ac uwchradd yn ystod y cyfnodau clo, bechgyn sydd wedi bod leiaf abl i ffurfio grwpiau cymdeithasol a chyfeillgarwch newydd. Er mwyn cefnogi newid mae wedi dod i’r amlwg ei bod yn bwysig i fechgyn gael modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol yn eu bywydau y tu hwnt i fywyd cartref ac ysgol. Rydym felly yn teimlo bod gan Aloud ran hanfodol i’w chwarae wrth wneud gwahaniaeth i fywydau bechgyn ifanc.
Os byddwn wedyn yn cyfuno effeithiau cadarnhaol canu gydag effeithiau’r pandemig ar fechgyn, mae’n iawn ein bod yn dychwelyd at ein gwreiddiau ac yn canolbwyntio ein sylw ar Only Boys Aloud fel ein darpariaeth am ddim yn ne ddwyrain Cymru.
Ond mae yna gynnig i ferched ac eraill. Mae Aloud Voices wedi’i sefydlu i ddatblygu llwybr i’r holl bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw drwy ein gweithgareddau. Er ein bod yn meddwl i ddechrau y gallai Only Girls Aloud gwrdd â hyn, yn dilyn ein gwaith gyda Gendered Intelligence, rydym bellach yn teimlo bod angen dull mwy cynhwysol o ymdrin â hyn. Bydd Aloud Voices yn galluogi unrhyw berson ifanc rhwng 9 a 25 oed i ymgysylltu â’n gwaith yn ne ddwyrain Cymru, waeth beth fo’u gallu, cefndir neu hunaniaeth. Er bod hwn yn weithgaredd ar dâl, mae bwrsariaethau ar gael i deuluoedd sydd ei angen, a gostyngiadau i frodyr a chwiorydd sy’n cymryd rhan gyda’i gilydd. Mae hefyd yn cefnogi ein holl bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd canu wythnosol, rhywbeth nad yw ar gael yn rhwydd mewn mannau eraill, ac sy’n fwy na’r cyfleoedd y gallem eu cynnig trwy Only Girls Aloud ac Only Kids Aloud.
Rydym yn gwybod nad dyma’r ateb yr oedd pawb yn chwilio amdano, ond dyma’r ffordd rydym yn teimlo y byddwn yn cefnogi mwy o bobl ifanc i ganu’n amlach gan gynyddu’r manteision o ganu a diogelu cyfleoedd Aloud ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.






