Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch sydd wedi rhannu ein hymgyrch i #AchubElusenAloud ac i bawb a gyfrannodd dros y 3 mis diwethaf. Rydym wedi cael ein cefnogi a’n calonogi gan bobl ledled y byd drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Er ein bod wedi methu â chyrraedd ein targed cychwynnol, rydym wedi cyrraedd swm sy’n ein galluogi i wneud cynlluniau i ddechrau gweithgaredd eto yr hydref hwn.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i godi arian a meddwl am syniadau am sut olwg fydd ar Aloud o hyn ymlaen. Fel rhan o hyn, rydym wedi ymweld â sawl sefydliad cerddorol a chelfyddydol ledled y DU i weld sut maen nhw’n rhedeg, ac mae hyn wedi ein helpu i ddatblygu model newydd i’w brofi. Rhaid i’n gwaith fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, i sicrhau y gallem gefnogi pobl ifanc i ganu am flynyddoedd lawer i ddod.
Er gwaethaf codi swm sylweddol o arian, ymddiswyddo staff yn y sefydliad, a gwneud toriadau ar draws ein holl weithgaredd, ni allwn barhau i redeg fel yr ydym wedi gwneud hyd yma. Mae ein costau a’n gorbenion wedi codi’n sylweddol ac mae’r gystadleuaeth am incwm grantiau i elusennau yn ddigynsail ar hyn o bryd.
Rydym felly wedi penderfynu treialu ein dull newydd o weithio yn ne-ddwyrain Cymru yn gyntaf, lle dechreuwyd OBA. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni weld sut mae pethau’n gweithio cyn ei gyflwyno i ardaloedd eraill yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu, yn yr hydref, y byddwn yn rhedeg y canlynol yn ne-ddwyrain Cymru:
- Only Boys Aloud: Ymarferion wythnosol am ddim i ddynion ifanc 11-19 oed
- Lleisiau Aloud: Ymarferion wythnosol â thâl i leisiau cymysg o blant a phobl ifanc
Bydd pob côr yn cael eu harwain gan arweinwyr côr Aloud. Bydd tîm o wirfoddolwyr lleol yn ymuno â nhw, gan ein cefnogi ym mhob ardal i redeg y côr ac i ddatblygu cysylltiadau ym mhob cymuned leol.
Os hoffech wirfoddoli yn eich ymarfer Only Boys Aloud lleol, neu gefnogi ein gweithgaredd mewn ffordd arall, cysylltwch â: [email protected]
Rydym yn dorcalonnus bod y ffordd ymlaen i Aloud ar hyn o bryd yn golygu y byddwn yn siomi rhai o’n haelodau a’u teuluoedd yng Ngogledd a Gorllewin Cymru, ac mae’n ddrwg gennym i’r rhai ohonoch chi y bydd hyn yn effeithio. Ond rydyn ni’n gwybod, er mwyn sicrhau bod pethau’n gweithio, bod yn rhaid i ni ddechrau’n fach a thyfu eto. Fodd bynnag, rydym yn falch bod Elusen Aloud yn dal i fodoli i allu cefnogi pobl ifanc i ganu mewn rhai ardaloedd ac yn gobeithio y gallwn barhau i ddarparu gweithdai a phrosiectau eraill Aloud ledled Cymru. Unwaith y byddwn yn gwybod bod ein model newydd yn gweithio ac yn cynhyrchu’r incwm sydd ei angen arnom i barhau, byddwn yn edrych ar sut y gallwn gyflwyno hyn yn ehangach.
Diolch i chi am sefyll law yn llaw gyda ni trwy’r cyfnod anodd hwn ac am roi eich cefnogaeth ddiwyro i’n pobl ifanc a’n tîm. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn hebddo chi.






