
Cyfarwyddwr Creadigol
Craig Yates (fe)
Bywgraffiad
Cafodd Craig ei eni a’i fagu yn Birmingham a symudodd i Gymru i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Astudiodd am flwyddyn yn Rwsia yn Academi Mariinsky i Gantorion Ifanc.
Bu’n aelod o Only Men Aloud ers 2001 ac mae hefyd yn gweithio fel canwr ac animateur lleisiol i Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Bu’n rhan o’r tîm y tu ôl i Aloud o’r diwrnod cyntaf ac mae wrth ei fodd o fod yn eu harwain yn artistig.
