Llysgennad

Rebecca Evans CBE

Bywgraffiad

Ganwyd y Soprano Operatig, Rebecca Evans, yn ne Cymru ac astudiodd yn y Guildhall School of Music and Drama.

Mae Rebecca yn perfformio’n rheolaidd yn Opera Genedlaethol Cymru, y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, ac Opera Cenedlaethol Lloegr.

Yn yr Unol Daleithiau, canodd Susanna a Zerlina ar gyfer y Metropolitan Opera, Efrog Newydd; Susanna yn Santa Fe; Pamina ac Adèle o Die Fledermaus ar gyfer Lyric Opera of Chicago a Zerlina, Anne Trulove yn The Rake’s Progress ac Adina yn L’elisir d’amore ar gyfer San Francisco Opera. Mewn cyngherddau, mae wedi ymddangos yng Ngwyliau Salzburg, Caeredin, Tanglewood a Ravinia, ac mae’n westai rheolaidd ym Mhroms y BBC. Recordiodd yn helaeth ac enillodd Wobr Grammy.

Cafodd aelodau Academi Only Boys Aloud y fraint o weithio gyda Rebecca mewn dosbarthiadau meistr unigol fel rhan o gwrs yr Academi.

Cysylltwch â Ni

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.