
Arweinydd Côr
David Fortey
Bywgraffiad
Bu David yn arweinydd cerdd yn gweithio gydag Only Boys Aloud er sefydlu’r côr yn 2010.
Bu’n brif aelod o’r ensemble dynion, ‘Only Men Aloud’, ers 2008, ac mae’n parhau i weithio’n agos gydag Elusen Aloud, yn helpu i gyflawni prosiectau cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru, yn ogystal ag Academi Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud.
Ar wahân i Aloud, mae David yn gweithio fel Animateur Lleisiol i Opera Cenedlaethol Cymru ac fel Tiwtor Llais yn breifat ac mewn ysgolion ledled Cymru gan helpu i fentora’r genhedlaeth nesaf o gantorion ifanc!
Cysylltwch â Ni
Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.
