
Arweinydd Côr
Josh Jones
Bywgraffiad
Ymunais ag OBA ar y cychwyn cyntaf yn ôl yn 2010, a minnau’n fachgen ifanc a ystyriai mai hobi oedd cerddoriaeth. Ar ôl chwe blynedd a chyfleoedd a phrofiadau di-ri a ddarparwyd gan Elusen Aloud, fe wnaeth fy angerdd a chariad at gerddoriaeth fy annog i astudio a dilyn gyrfa yn y celfyddydau.
Ar ôl ennill graddau Baglor a Meistr, a minnau wrth fy modd yn addysgu ac ymestyn allan, braint mawr i mi bellach yw fy mod wedi dychwelyd i weithio fel Arweinydd Côr gan weithio gyda’r genhedlaeth newydd o OBA.
Cysylltwch â Ni
Mae holl Arweinyddion Corau Aloud yn animateuriaid lleisiol, addysgwyr a cherddorion profiadol. Mae’n un o ofynion llym Aloud bod ein holl staff llawrydd a chyflogedig yn derbyn gwiriadau datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn rheolaidd.
