Sylfaenydd

Tim Rhys-Evans MBE

Bywgraffiad

Mae Tim yn credu’n gryf yng ngrym trawsffurfiol cerddoriaeth ac y dylai pawb gael y cyfle i ymwneud â’r celfyddydau. I’r perwyl hwn, yn 2010 sefydlodd Elusen Aloud sy’n rhedeg corau Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud. Gyda’r nod cyffredin o ailfywiogi traddodiad corau meibion Cymru a chael effaith go iawn ar fywydau pobl ifanc o ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol, mae’r mentrau hyn wedi gwella bywydau miloedd o blant o rai o’r cymunedau tlotaf yng Nghymru.

Mae gwaith Tim yn golygu iddo gael ei anrhydeddu gan sawl sefydliad gan gynnwys ei urddo i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010, a’i benodi’n MBE gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn 2013; derbyniodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol De Cymru yn 2017 a Chymrodoriaeth Anrhydeddus gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2019.

Penodwyd Tim Rhys-Evans yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2020. Mae galw mawr am ei wasanaeth fel arweinydd corawl, trefnwr, cyfansoddwr a chyflwynydd teledu.

Cysylltwch â Ni

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.