
Ymddiriedolwr
Rhian Davies
Magwyd Rhian yng Nghwm Tawe ac mae bellach yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl hyfforddi, mae bellach yn gweithio fel cyfreithiwr yn y cwmni cyfreithiol masnachol Blake Morgan LLP yng Nghaerdydd, lle mae’n arbenigo mewn cyfraith bancio a chyllid gan weithio i gwmnïau, banciau a benthycwyr eraill.
Mae Rhian yn un o Gyd-sylfaenwyr a threfnwyr rhwydwaith Menywod mewn Corfforaethol a Chyllid Cymru sy’n cynnal digwyddiadau i fenywod sy’n gweithio mewn meysydd corfforaethol a/neu gyllid i gyfarfod a rhwydweithio mewn meysydd sydd draddodiadol yn cael eu dominyddu gan ddynion.
