Cwrs Academi OBA Llwyddiannus Arall!

Academi OBA

Rhwng y 12fed a’r 19eg o Orffennaf eleni, daeth 23 o aelodau Academi Only Boys Aloud at ei gilydd ar gyfer ein cwrs preswyl blynyddol, a gynhaliwyd am yr ail dro yng Ngholeg Christ, Aberhonddu. Mae’r coleg wedi’i leoli yng nghalon tref Aberhonddu, gyda golygfeydd o Fannau Brycheiniog hardd, ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer ein cwrs Academi.

Gwelodd y bechgyn y gerddoriaeth am y tro cyntaf nos Sul honno, ac roedd y rhestr o ganeuon yn cynnwys cerddoriaeth o amrywiaeth o genres: cerddoriaeth werin draddodiadol o Ynysoedd Prydain – Scarbrough Fair, Loch Lomond a The Fields of Athenry; ychydig o ganeuon ysbrydol – Deep River ac If I’ve Got My Ticket Can I Ride; cerddoriaeth o bedwar ban byd gan gynnwys cân werin o Tahiti a Sivela Kwazulu; ac wrth gwrs, caneuon o sioeau cerdd gan Kander & Ebb a Stephen Sondheim.

Yn ogystal ag ymarferion adrannol lle dysgodd y bechgyn y gerddoriaeth gyfan, cafodd y bechgyn wersi canu unigol a gwersi theori cerdd, a chymryd ran mewn dau weithdy cyfansoddi dan arweiniad Nathan Dearden a Siôn Tomos Owen. Yn ogystal â nifer o ymweliadau â’r siop hufen iâ gyferbyn, cafodd y bechgyn noson gwis a chabaret hefyd – uchafbwynt y wythnos bob amser!

Daeth yr wythnos i ben gyda chyngerdd gwych yn Theatr Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar nos Sul olaf yr wythnos. Roedd y bechgyn wrth eu bodd i ymuno â’r seren opera a chyn-aelod Only Boys Aloud, Emyr Wyn Jones, i berfformio Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a Deep River gyda’i gilydd. Daeth y cyngerdd i ben gyda chymeradwyaeth frwdfrydig a haeddiannol iawn gan y gynulleidfa i bawb a gymerodd ran!

Da iawn a diolch i’r holl fechgyn a gymerodd ran yn yr wythnos, a diolch arbennig i’r holl staff cerddorol a bugeiliol, y cyfeilydd Rhiannon Pritchard, y Cyfarwyddwr Christina Michelle Daniels, a’n Cyfarwyddwr Creadigol ni ein hunain, Craig Yates, am eu holl waith caled.

Ar ôl wythnos yr Academi, teithiodd y bechgyn i’r Iseldiroedd ar gyfer taith gyngherddau! Dysgwch fwy am y daith YMA.

Share Article:

Read another article...

Aloud To Be (1)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Joel
Aloud To Be (3)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Rhodri
Aloud To Be (2)
Newyddion
Aloud To Be - Stori Iestyn
CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Chwilio am...

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r profiad gorau i chi fel defnyddiwr. Os ydych yn dewis parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.