Mae Academi Only Boys Aloud yn gwrs preswyl dwys wythnos o hyd sy’n darparu hyfforddiant uwch ym mhob agwedd ar gerddoriaeth gyffredinol, canu a pherfformio i aelodau hŷn Only Boys Aloud. Ymunwch â ni ar gyfer ein cyngerdd diwedd cwrs sy’n arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth gorawl o repertoire corau meibion traddodiadol i glasuron theatr gerdd.




