ONLY KIDS ALOUD

Alumni Only Kids Aloud

Pan ddaw eu hamser yn Only Kids Aloud i ben, gall yr aelodau ymuno â’n carfan gynyddol o Alumni er mwyn cadw mewn cyswllt ag Elusen Aloud.

Cafodd Elusen Aloud y fraint o weithio gyda miloedd o blant dros y blynyddoedd drwy raglenni Only Kids Aloud ac mae’n hyfryd pan mae cyn-gyfranogwyr yn cadw mewn cyswllt â ni, ac â’i gilydd.

Yn 2020, fe wnaethom ni ddatblygu Cynllun Alumni OKA, gan roi’r cyfle i gyn-aelodau barhau â’u perthynas ag Aloud a chadw mewn cyswllt â ffrindiau OKA.

Pan fydd aelod OKA yn dod yn Alumni, bydd yn derbyn bathodyn pin arbennig i gofio am eu hamser gyda’r côr.

Manteision

Cael y newyddion diweddaraf am Aloud, digwyddiadau a pherfformiadau

Cadw mewn cyswllt â ffrindiau OKA

Cael eich cynnwys mewn cyfleoedd i gydganu yn y dyfodol

Ydych chi’n Alumni OKA?

Ydych chi wedi bod yn aelod o Gôr Only Kids Aloud, neu ydych chi’n gwybod am rywun a fu? Cysylltwch â ni heddiw i roi gwybod i ni. Fe fyddem ni wrth ein bodd yn cadw mewn cyswllt a’ch helpu i gynnal cyswllt ag Elusen Aloud.

CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

Sori, does dim digwyddiadau ar y gorwel. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen.