BLYNYDDOEDD YSGOL 5 a 6

Corws Only Kids Aloud

Term ymbarél yw Only Kids Aloud am y rhaglen o weithgarwch sydd wedi’i llunio i ferched a bechgyn ym mlynyddoedd ysgol 5 + 6. Mae Corws OKA a rhaglen Aloud in the Classroom ill dwy yn elfennau craidd o’r prosiect.

Only Kids Aloud

Prosiect blynyddol yw Corws Only Kids Aloud sy’n rhedeg yn barhaus am 12 mis y flwyddyn. Rydym yn falch o gael croesawu rhwng 80 a 100 o ferched a bechgyn dawnus o bob rhan o Gymru i’r rhaglen bob blwyddyn. Mae’n nhw’n cael clyweliad am eu lle ac yn mwynhau dysgu mewn arddull breswyl. Gan nad oes y fath beth â Chôr Plant Cenedlaethol Cymru yn swyddogol, mae OKA yn darparu profiad corawl o ansawdd uchel i blant o bob cwr o’r wlad.

Cafodd Corws Only Kids Aloud y cyfle i ganu mewn sawl digwyddiad rhyfeddol ers ei sefydlu yn 2010, gan gynnwys yn BBC Proms in the Park, ym mhantomeim CBeebies, ochr yn ochr â Bryn Terfel yn Cape Town a chyda Valery Gergiev yn St Petersburg.

Dechreuodd gweithgarwch Our Only Kids Aloud fel cyfres o weithdai mewn ysgolion cynradd ledled De Cymru. Ar ôl ambell brosiect llwyddiannus, datblygwyd y fenter ymhellach gan gydweithio â Chanolfan Mileniwm Cymru ac Ystad Roald Dahl. Gyda’n gilydd, crëwyd adnodd hyfforddiant ar-lein newydd sbon i athrawon, a phenllanw hynny oedd 4,500 o blant ysgol yn cydganu am dymor o gyngherddau dathlu. Arweiniodd hyn at ffurfio Corws OKA a sefydlwyd y côr i fod yn aelod newydd o deulu Aloud.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Sefydliad Hodge am eu nawdd hael i Gorws Only Kids Aloud ac Aloud in the Classroom – hebddyn nhw, ni fyddai’r prosiect yn bodoli.

Pam ymuno â Chorws Only Kids Aloud?

Cynyddu Hyder

Mae Corws OKA nid yn unig yn rhoi platfform i’r plant, mae hefyd yn eu cyflwyno i blant o bob rhan o Gymru, yn rhoi’r cyfle iddyn nhw gydganu ac yn eu gwthio i weld eu potensial gwych eu hunain.

Synnwyr o Gymuned

Mae’r plant sy’n ymuno â Chorws Only Kids Aloud yn dod yn rhan o gymuned hyfryd a chefnogol o unigolion o gyffelyb fryd sy’n cefnogi ei gilydd, yn llonni ei gilydd ac yn helpu eraill i ffynnu.

Datblygu Sgiliau

Mae’r plant yng Nghorws OKA nid yn unig yn datblygu eu galluoedd cerddorol, maen nhw’n dod yn fwy hunangynhaliol ac annibynnol, yn datblygu gwell sgiliau rheoli amser ac yn dysgu cyfathrebu’n fwy agored ag eraill.

Merched a Bechgyn 9-11 Oed

Gweithgareddau Preswyl

100+ o Aelodau

Clyweliadau Blynyddol

CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

1 Hydref 2023
Lansiad Gorllewin Cymru Only Girls Aloud!
Bydd ein côr Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru yn cyfarfod ar gyfer eu hymarfer cyntaf!
Only Girls Aloud
10.00am
14 Hydref 2023
Ymarfer preswyl Only Kids Aloud
Only Kids Aloud