ALOUD YN Y DOSBARTH
Ysgol Gynradd Rhosyn Gwyn
Yn ôl yn 2019, cynhaliodd Aloud brosiect yn yr ysgol gynradd yr arferai ein Sylfaenydd, Tim Rhys-Evans, ei mynychu. Fel prosiect peilot ar gyfer ein rhaglen Aloud yn y Dosbarth, roeddem ni eisiau rhoi cynnig ar ambell ffordd newydd o weithio i helpu athrawon cynradd yn y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â chanu gyda’r plant yn yr ystafell ddosbarth.
Yn Nhredegar Newydd y mae Ysgol Gynradd Rhosyn Gwyn, tref ôl-lofaol yn Nghwm Rhymni – a chymuned a gafodd ei tharo’n galed pan gaeodd y pwll glo. Bu arweinyddion côr Aloud yn gweithio gyda’r plant yn yr ysgol – a’u hathrawon – dros nifer o wythnosau i gyfansoddi cân newydd i’r ysgol yn seiliedig ar eu harwyddair “Credu, Dysgu, Tyfu Gyda’n Gilydd”, a berfformiwyd wedyn gerbron cynulleidfa arbennig iawn – pan ymwelodd Eu Huchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw â’r ysgol!
Enillodd y prosiect wobr yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru 2020 mewn partneriaeth â Sefydliad Hodge. I gael gwybodaeth am sut i fod yn Bartner Corfforaethol, neu i gysylltu â ni, defnyddiwch y dolenni isod:
Gwyliwch grynodeb o’r prosiect hwn fan yma
Cân wedi’i chyfansoddi gan blant Ysgol Gynradd Rhosyn Gwyn
This is my home, This is my town,
Ev’rybody’s welcome here, have a look around!
This is my school, these are my friends,
We’re like a family. We love to spend each day learning how to…
Cytgan
Believe, Learn, Grow together!
Believe, Learn, Grow together!
Believe in friends and family,
And learn how we can live in harmony,
And grow, together.
And when I’m grown up and I step out on my own,
I’ll think of all the lessons learned along the way.
Who knows how far away I’ll travel from White Rose?
But where I go, I’ll always know the things I’m telling you today…
So just Believe (Credu), Learn (Dysgu), and Grow (Tyfu) together (gyda’n gilydd)!
Believe (Credu), Learn (Dysgu), and Grow (Tyfu) together (gyda’n gilydd)!
And when I come to leave this school, I will always have this simple rule,
Believe and learn and grow together!
“Rwy mor falch o’r hyn y llwyddoch chi a’ch tîm ynghyd â Nerys i’w gyflawni gyda’r plant, y cyfle a roesoch chi iddyn nhw, ac ymweliad Eu Huchelder Brenhinol ar ben hynny. Rydych chi oll wedi cael effaith fawr ar ein plant a chymuned yr ysgol – dydw i ddim yn meddwl y gwawn ni byth gael diwrnod cystal eto. Bydd ein diolch byth yn ddigon.”
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.