9-12 OED
Only Kids Aloud
Term ymbarél yw Only Kids Aloud am y rhaglen o weithgarwch sydd wedi’i llunio i ferched a bechgyn mewn ysgolion cynradd. Mae Corws OKA a rhaglen Aloud in the Classroom ill dwy yn elfennau craidd o’r prosiect.
Corws Only Kids Aloud
Corws Cymru Gyfan i fechgyn a merched 9-12 oed. Prosiect ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru oedd y Corws i gychwyn, ac mae bellach wedi perfformio gyda Bryn Terfel yn Cape Town, wedi canu gwaith Mahler gyda Gergiev yn St Petersburg ac wedi ymddangos ym mhantomeim CBeebies.
Aloud in the Classroom
Aloud in the Classroom yw elfen llawr gwlad ein gwaith i blant iau, a thrwyddi rydym yn helpu i addysgu canu mewn ysgolion cynradd drwy weithdai a pherfformiadau hwyliog a difyr.
Cyn-aelodau Only Kids Aloud
Ar ddechrau 2021, fe wnaethom ni lansio Cynllun Cyn-aelodau Only Kids Aloud. Bydd cyn-aelodau Only Kids Aloud yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am yr elusen a’n digwyddiadau, ynghyd â bathodyn pin arbennig Only Kids Aloud! Mae’n ffordd wych i gadw mewn cyswllt â phopeth yn ymwneud ag Aloud!
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.
Digwyddiadau Ar y Gorwel
Beth Sydd ar y Gweill?
“Diolch o galon am y cyfle hyfryd gafodd Iona i ganu gydag Only Kids Aloud. Roedd hi wrth ei bodd â’r profiad. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda staff ac aelodau mor dalentog. Bydd bod yn rhan o Only Kids Aloud yn cyfoethogi ei bywyd yn gyfan. Mae cael hwyl drwy gerddoriaeth wedi bod yn llawenydd mawr. Bu’r fath safonau uchel yn agoriad llygaid. Mae wedi gwneud ffrindiau a chanu’r holl ffordd adref.”
“Dim ond e-bost byr i ddiolch i bawb am gyngerdd cwbl ryfeddol ym Mae Colwyn nos Sadwrn. Fyddai dweud ei fod yn llwyddiant ddim yn gwneud cyfiawnder ag o. Gyda Katherine Jenkins a Lee Mead ar y poster, hawdd fyddai meddwl bod OKA yno i lenwi’r bylchau. Ond nid felly. Nhw dderbyniodd y gymeradwyaeth fwyaf, ac roedd y gynulleidfa ar ei thraed. Roedd y mur o sain a grëwyd ganddynt yn rhoi ias i lawr y cefn. Roedd wir mor dda â hynny. Llongyfarchiadau.”
“Hoffwn ddiolch i chi i gyd am helpu Joseph i ddatblygu fel canwr a pherfformiwr. Arferai fod yn fachgen bach swil yng nghysgod ei frodyr hŷn, ond mae hynny wedi newid erbyn hyn. Mae bellach ganddo angerdd at ganu a chydweithio fel tîm. All e ddim aros am ei antur nesaf gyda chi ac mae’n cyfri’r dyddiau hyd nes y caiff ymuno ag Only Boys Aloud fel ei frodyr. Fel rhiant, allaf i ddim pwysleisio ddigon mor bwysig yw profiadau fel nos Sadwrn ynghyd â’r broses ymarfer. Fel athro, mae’n destun balchder i mi bod fy nheulu’n chwarae eu rhan ar amryw gamau o broses Aloud, o ystyried y diffyg cyllid sydd ym myd addysg i’r celfyddydau a cherddoriaeth yn benodol.”