Only Girls Aloud

Rydym ni’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â datblygu gweithgareddau corawl newydd i Ferched Ifanc yng Nghymru. Mae ein prosiectau newydd wedi’u sefydlu mewn ymateb i’r galw mawr yn y cymunedau’r ydym ni’n gweithio gyda nhw.

Only Girls Aloud yw ein rhaglen gôr ar gyfer merched ifanc 11-16 oed yng Nghymru a lansiodd yn 2022.

Cynhelir ymarferion di-glyweliad yn fisol yng Nghaerdydd ac maent yn rhad ac am ddim.

Mae aelodau côr Only Girls Aloud yn cael y cyfle i gwrdd ag amrywiaeth o siaradwyr gwadd ysbrydoledig a dysgu am eu profiadau bywyd, llwybrau gyrfa a hanesion. Mae hyn wedi arwain at greu grŵp ymgysylltiol ac uchelgeisiol sy’n cefnogi ei gilydd i feithrin eu hyder a hunanfynegiant.

Ymhlith y siaradwyr gwadd blaenorol mae Chloe Smith sylfaenydd Bigmoose Coffee Co, y gantores a’r actores o Gymru Sophie Evans, Capten Nicola Willcox sy’n beilot i Brirish Airways, a’r Ffotograffydd Rebecca Toner.

Perfformiodd Only Girls Aloud am y tro cyntaf yng Nghyngerdd Pen-blwydd Aloud yn 2022. Maent hefyd yn ymddangos ar albwm pen-blwydd newydd GEN Z ac yn rhaglen ddogfen 4 rhan Aloud i S4C.

Mae Only Girls Aloud yn amgylchedd diogel, cynhwysol, cyfeillgar ac anfeirniadol ac rydym bob amser yn croesawu aelodau newydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddod yn aelod, cysylltwch â:  [email protected] 

Hoffem ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru: Create, Scops Arts Trust a’r Tŷ Cerdd am gefnogi Only Girls Aloud

Chloe Smith - Bigmoose Coffee Co

Siaradwr Gwadd

CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

12 Mehefin 2023
Ymarfer Only Boys Aloud - Y Rhyl
Ymarfer Only Boys Aloud | Bob Dydd Llun
Only Boys Aloud
Yr Eglwys Unedig yn y Rhyl, Stryd y Dŵr, Y Rhyl LL18 1SP
6.30pm
12 Mehefin 2023
Ymarfer Only Boys Aloud - Cwmbrân
Ymarfer Only Boys Aloud | Bob Dydd Llun
Only Boys Aloud
Nant Bran, Hoel Cwmbran Uchaf, Cwmbran, NP44 1SN
6.30pm