ONLY BOYS ALOUD
Fforwm Aelodau OBA
Mae Fforwm Aelodau OBA yn rhoi cyfle i’n cyfranogwyr rannu eu barn a’u hawgrymiadau, gan gryfhau’r synnwyr o berchnogaeth o’u côr.
Mae Only Boys Aloud yn gôr i bobl ifanc ac mae llais pobl ifanc yn bwysig i ni yn Aloud.
Mae Fforwm Ieuenctid Only Boys Aloud yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o gorau OBA ledled Cymru. Mae’r Fforwm yn cwrdd unwaith y tymor i drafod materion sy’n bwysig iddyn nhw fel aelodau OBA. Caiff cynrychiolwyr y Fforwm y cyfle i gyfrannu at waith Aloud a chyfle i fynegi’u barn ar ddatblygiad Only Boys Aloud.
Mae aelodau’r Fforwm hefyd yn gweithredu fel cynrychiolwyr OBA – yn ddiweddar, bu aelodau’r Fforwm yn cynrychioli Aloud yn ein prosiect rhithwir gyda Japan ac fel rhan o brosiect gyda’r Y7 gan greu fideo yn mynegi materion ieuenctid ar gyfer arweinwyr byd a oedd yn rhan o uwchgynhadledd y G7 a gynhaliwyd ym Mhrydain.
Mae’r Fforwm hefyd yn blatfform i’r bechgyn feddwl am syniadau i godi arian i’r elusen ac yn gyfle i gynnal eu digwyddiadau codi arian eu hunain i Aloud. Mae bod yn aelod o’r Fforwm yn cynyddu hyder yr aelodau, yn gwella eu sgiliau gwrando a chyfathrebu ac yn rhoi i’r bechgyn synnwyr o falchder yng nghôr OBA.
Uwchgynhadledd Ieuenctid y G7
Yng ngwanwyn 2021, roedd Aelodau Fforwm OBA yn falch o gael cymryd rhan yn Uwchgynhadledd Ieuenctid y G7. Dyma fideo byr isod a gyflwynwyd yn y digwyddiad, sy’n tynnu sylw at y materion byd-eang sydd bwysicaf iddynt.
“Mae Only Boys Aloud wedi newid fy mywyd. Mae wedi rhoi cyfeiriad i mi mewn bywyd, a’r hyder i gredu ynof i fy hun a sylweddoli nad oes dim yn amhosib. Mae yna gyfleoedd i bob math o bobl o bob math o gefndiroedd.”
“Cefais gyfle i fynd i’r brifysgol yng Nghaergrawnt, a’r rheswm y penderfynais i aros yng Nghymru oedd er mwyn i mi allu parhau i ganu gydag Only Boys Aloud!”
“Peidiwch â phetruso. Ymunwch cyn gynted â phosib. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cerddoriaeth neu os ydych chi eisiau dilyn unrhyw yrfa yn y celfyddydau, gwella eich canu yw’r ffordd orau i wneud hynny. Mae’r ffrindiau oes a wnewch yn wych ac fe gewch chi brofiadau unwaith mewn bywyd. Maen nhw’n atgofion y byddwch chi’n eu trysori am byth.”
“Fy uchelgais yn fy arddegau oedd naill ai bod ar y llwyfan neu’r tu ôl i’r llen yn gweithio yn y West End neu’n rhyngwladol. Pe na byddai OBA wedi sbarduno fy hyder a’r awch i gyflawni unrhyw beth, fyddwn i ddim yn beiriannydd sain proffesiynol heddiw.”
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.