ONLY BOYS ALOUD
Cyn-aelodau Only Boys Aloud
Mae Cynllun Cyn-aelodau Only Boys Aloud yn agored i rai sydd wedi graddio o OBA i fynd ymlaen i astudio neu i fyd gwaith neu am eu bod wedi cyrraedd 20 oed.
Byddwch wastad yn rhan o Aloud!
Mae dros 1,000 o ddynion ifanc wedi ‘graddio’ o Only Boys Aloud ers i ni ddechrau yn 2010.
Rydym mor falch o bob un ohonoch sydd wedi bod yn rhan o Aloud ac wedi creu atgofion melys a ffrindiau oes ar hyd y ffordd.
Os fuoch chi’n rhan o’n stori byddem wrth ein boddau’n cadw mewn cysylltiad â chi! Mae cofrestru fel Alumnus OBA yn rhoi’r cyfle i chi fel cyn-aelodau:
- Barhau â’ch perthynas ag Aloud
- Cadw mewn cysylltiad gyda’ch cyd-aelodau côr
- Clywed am ddigwyddiadau a chyfleoedd unigryw i gyn-aelodau
- Cael diweddariadau am weithgareddau’r elusen drwy ein cylchlythyr i gyn-aelodau
- Cael bathodyn pin arbennig i nodi eich amser gyda’r côr
Ydych chi yn Gyn-aelod OBA?
Ydych chi wedi bod yn aelod o Gôr Only Boys Aloud, neu ydych chi’n gwybod am rywun a fu? Cysylltwch â ni heddiw i roi gwybod i ni. Fe fyddem ni wrth ein bodd yn cadw mewn cyswllt a’ch helpu i gynnal cyswllt â’ch Teulu Aloud.
“Mae Only Boys Aloud wedi newid fy mywyd. Mae wedi rhoi cyfeiriad i mi mewn bywyd, a’r hyder i gredu ynof i fy hun a sylweddoli nad oes dim yn amhosib. Mae yna gyfleoedd i bob math o bobl o bob math o gefndiroedd.”
“Cefais gyfle i fynd i’r brifysgol yng Nghaergrawnt, a’r rheswm y penderfynais i aros yng Nghymru oedd er mwyn i mi allu parhau i ganu gydag Only Boys Aloud!”
“Peidiwch â phetruso. Ymunwch cyn gynted â phosib. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cerddoriaeth neu os ydych chi eisiau dilyn unrhyw yrfa yn y celfyddydau, gwella eich canu yw’r ffordd orau i wneud hynny. Mae’r ffrindiau oes a wnewch yn wych ac fe gewch chi brofiadau unwaith mewn bywyd. Maen nhw’n atgofion y byddwch chi’n eu trysori am byth.”
“Fy uchelgais yn fy arddegau oedd naill ai bod ar y llwyfan neu’r tu ôl i’r llen yn gweithio yn y West End neu’n rhyngwladol. Pe na byddai OBA wedi sbarduno fy hyder a’r awch i gyflawni unrhyw beth, fyddwn i ddim yn beiriannydd sain proffesiynol heddiw.”
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.