ONLY BOYS ALOUD
Côr Only Boys Aloud
Drwy ymarferion côr wythnosol, rydym ni’n defnyddio pŵer cydganu i ysbrydoli dynion ifanc i ddod o hyd i hyder, cymuned, llawenydd a chyfeillgarwch.

Pam ymuno â Chôr Only Boys Aloud?
Cynyddu Hyder
Mae ein harweinyddion corawl profiadol yn helpu ein bechgyn i ddatblygu eu hunanhyder. Boed drwy berfformio ar lwyfan, cael llinell o unawd neu ganu mewn stiwdio recordio, bydd eu hunan-barch yn disgleirio drwy eu bywyd bob dydd.
Synnwyr o Gymuned
Mae ein haelodau a’u teuluoedd yn aml yn dweud bod cymryd rhan yn ein gweithgarwch fel bod yn rhan o deulu. Rydym yn falch o gael cyfrannu pobl egnïol sy’n chwarae mwy o ran yn ein cymdeithas.
Datblygu Sgiliau
Drwy OBA, mae ein haelodau’n dysgu sgiliau bywyd sy’n eu helpu i gyflawni’u potensial, waeth pa lwybr y byddan nhw’n ei ddewis mewn bywyd. Y tu hwnt i ganu, fe fyddan nhw’n cael profiad o weithio fel tîm, rhyngweithio ag eraill a siarad yn gyhoeddus.
Ymuno â Chôr
Dewch draw i’n hymarfer nesaf i brofi sut beth yw bod yn rhan o OBA. Rydym ni’n groesawgar, yn gyfeillgar ac yn hamddenol, ac wastad wrth ein bodd o weld wynebau newydd, felly beth am roi cynnig ar sesiwn i weld a yw at eich dant chi?
13 o Gorau
Dim Clyweliadau
200+ o Aelodau
Dim Ffioedd
“Mi symudais i o Fanceinion i ogledd Cymru yn 2015, a dyma grŵp o ffrindiau yn yr ysgol yn dweud a dweud wrthyf i am ddod i sesiwn OBA. Bryd hynny, a minnau’n ‘Hogyn o’r Ddinas’, mi oeddwn i’n meddwl fy mod i’n rhy cŵl i ganu mewn côr Cymreig. Yn y diwedd, i roi taw ar eu cecru, dyma fi’n mynd i sesiwn. Mi oeddwn i’n gwbl anghywir i feddwl nad oedd yn cŵl. Mi wnaeth bod yn aelod o OBA fy aeddfedu fel person, ac mi ydw i mor ddiolchgar am hynny. Fyswn i byth hyd yn oed yn gallu dychmygu cymaint o brofiadau hyfryd dwi wedi’u cael drwy OBA.”
“Bachgen swil heb hunanhyder oedd fy mab cyn iddo ddechrau yn Only Boys Aloud, ac mae wedi tyfu i fod yn ddyn sy’n hyderus ymysg pobl. Mae wedi dewis cerddoriaeth fel gyrfa yn sgil y cyfleoedd gafodd e a’r ffaith i fentoriaid OBA ei feithrin. Mae’n anodd rhoi mewn geiriau cymaint mae wedi newid ei fywyd ac mor falch a diolchgar ydw i fel mam.”
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.
