ONLY BOYS ALOUD 16-19 OED
Academi Only Boys Aloud
Ein cwrs preswyl haf uwch i aelodau OBA sy’n dangos y potensial mwyaf, neu’r rhai sy’n ystyried dilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio.
Rydym yn cynnal clyweliadau blynyddol i unrhyw rai sydd eisoes yng Nghôr Only Boys Aloud sydd â diddordeb mewn ymuno ag Academi OBA ac sydd rhwng 16 ac 19 oed.
Bob blwyddyn, mae 32 o ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn un o’r lleoedd hynod boblogaidd ar y cwrs preswyl unigryw hwn. Bydd y criw dethol lwcus yn derbyn hyfforddiant cerddorol cyffredinol fel grŵp, gwersi canu unigol a hyfforddiant canu uwch gan hyfforddwyr proffesiynol, ynghyd â pherffeithio repertoire arferol OBA.
Mae angen i fechgyn sy’n ymwneud â’r Academi fod yn barod am flwyddyn galendr brysur – nid yn unig y bydd yn rhaid iddyn nhw sicrhau presenoldeb llawn yn eu hymarferion OBA arferol, ond ymrwymo hefyd i wythnos o gwrs preswyl i fireinio eu sgiliau lleisiol a chynnal ymarfer grŵp dwys.
Rydym yn rhyfeddol o ddiolchgar i Sefydliad Mosawi am eu cymorth uniongyrchol i raglen Academi OBA.
Pam Ymuno ag Academi Only Boys Aloud?
Eich herio eich hun
Mae côr yr Academi yn perfformio repertoire mwy heriol mewn amrywiaeth ehangach o ieithoedd ac arddulliau cerddorol ac yn cynnig hyfforddiant mwy uchelgeisiol o ansawdd uwch i’r bechgyn mwyaf dawnus a phenderfynol.
Dysgu perfformio
Bydd gan fechgyn yr Academi nifer fwy o berfformiadau cyhoeddus uchel eu proffil drwy gydol y flwyddyn, a mwy o gyfrifoldeb i gynrychioli brand Aloud mewn ffordd gadarnhaol.
Llwybr at lwyddiant
Aeth llawer o gyn-aelodau’r Academi ymlaen i astudio mewn Colegau Cerdd a Conservatoires ledled y wlad.
Ymunwch ag Only Boys Aloud
Dewch draw i’n hymarfer nesaf i brofi sut beth yw bod yn rhan o OBA. Rydym ni’n groesawgar, yn gyfeillgar ac yn hamddenol, ac wastad wrth ein bodd o weld wynebau newydd, felly beth am roi cynnig ar sesiwn i weld a yw at eich dant chi?
1 Côr Uwch
Cwrs Blynyddol
32 o Aelodau
Dull Preswyl o Ddysgu
Astudiaethau Achos
Academi Only Boys Aloud 2018 - Loch Lomond
“Mae ganddo fwy o ffocws yn ei fywyd, ar ei benderfyniadau ynglŷn â’r dyfodol. Mae’n cynllunio a threfnu mwy nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae wedi dod yn fwy hunangynhaliol yn hytrach na bod yn ddibynnol.”
“Roeddwn i wastad yn mynd am yr hyn oedd yn dderbyniol, ond ers i mi ymuno ag OBA rwy’n ymdrechu at berffeithrwydd ym mhopeth rwy’n ei wneud.”
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.