Merched aloud Girls
Corau i Ferched
Rydym ni’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â datblygu gweithgaredd corawl newydd i Ferched Ifanc yng Nghymru. Mae ein prosiect newydd wedi’i sefydlu mewn ymateb i’r galw mawr yn y cymunedau’r ydym ni’n gweithio gyda nhw.
Ers peth amser, rydym ni wedi bod yn ymwybodol o’r galw enfawr sydd am i Elusen Aloud gynnig rhaglen o ganu i ferched yn eu harddegau. Rydym ni hefyd yn gwybod bod yr heriau sy’n wynebu menywod ifanc yng Nghymru yn aml yn wahanol iawn i’r rhai sy’n wynebu dynion ifanc.
Yn 2020, fe wnaethom lansio ein prosiect peilot cyntaf erioed yn gweithio merched yn Ysgol Uwchradd Fitzalan er mwyn dechrau gosod y seiliau i brosiectau mwy parhaol i ferched. Arweiniwyd y prosiect gan Amy Wadge, un o Lysgenhadon Aloud a chantores a chyfansoddwr caneuon sydd wedi ennill Gwobr Grammy. Fel rhan o’r prosiect roedd disgyblion o amryw gefndiroedd ethnig yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai cyfansoddi caneuon.
Mae ein profiadau yn Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi rhoi dealltwriaeth ddefnyddiol o’r ffordd orau i ddatblygu Gweithgareddau Canu i Ferched, ac rydym mewn trafodaeth â sefydliadau ieuenctid a chelfyddydol yn ein rhwydweithiau i greu cynllun at y dyfodol.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein Merched Aloud, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr gan ddefnyddio’r ddolen isod neu gallwch ein dilyn ar sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.
Os ydych yn gyn aelod o Only Kids Aloud a bod gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o weithgareddau gyda merched yn eu harddegau yn y dyfodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â Chynllun Cyn-aelodau OKA er mwyn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.
Merched Aloud Girls
Rydym yn falch iawn o gyflwyno Merched Aloud Girls! Canu, gwneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o gymuned sy’n tyfu
Diolch i gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ym mis Medi 2021, lansiwyd prosiect peilot i ferched 11-16 oed.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn derbyn mwy o geisiadau i fod yn rhan o’r côr ond cadwch lygaid allan ar ein gwefannau cymdeithasol am ragor o fanylion yn y dyfodol.
E-bostiwch [email protected] am ragor o fanylion.
Siaradwr Gwadd
Yn ystod ein sesiwn ym mis Rhagfyr, cawsom y fraint o gael cwmni siaradwr gwadd arbennig iawn: Chloe Smith o Bigmoose Coffee Co.
Mae Chloe wedi bod yn ymwneud â Bigmoose Coffee Co. ers ei sefydlu, ac fe wnaeth ei hangerdd i helpu eraill ddisgleirio yn ystod y dwy flynedd a dreuliodd yn helpu i fwydo pobl digartref yng Nghaerdydd.
Yn ddynes ifanc benderfynol iawn, dringodd Fynydd Kilimanjaro yn 15 oed, rhedeg ultramarathon 42 milltir yn 22 oed, ac agor Bigmoose Coffee Co. yn 23 oed.
Mae Chloe yn frwd dros helpu eraill ac mae’n siaradwr gyhoeddus gydag ysbryd heintus!
“Working with the Aloud staff was an absolute pleasure and privilege which has informed our future practice. Aloud staff were supportive of pupils and staff which created a wonderful atmosphere each week. We have thoroughly enjoyed collaborating with Aloud and look forward to working together again.”
“Mae fy hyder wedi gwella. Yn wreiddiol, roedd arnaf i ofn canu o flaen pobl – mae gwneud rhywbeth o’i le yn gwneud i mi deimlo embaras. Ond rwy wedi dysgu bod pawb yn gwneud rhywbeth o’i le felly pam ddylwn i deimlo embaras? Dydw i ddim am wirfoddoli i ganu’r unawd, ond os ydyn nhw’n rhoi’r unawd i mi, fe wnaf i roi cynnig arni.”
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.