ONLY BOYS ALOUD

Partneriaeth Sound UK: A Song For Us

Yn ystod mis Mawrth 2022 buom wrthi yn cydweithio â Sound UK a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar lawnsiad cân newydd: Just Breathe.

Mae A Song for Us yn brosiect ar draws y DU sy’n comisiynu cyfansoddwyr a cherddorion i ysgrifennu caneuon newydd wedi ei ysbrydoli gan bobl o’u hardal. Fel rhan o’r prosiect, comisiynodd Sound UK a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Amy Wadge – enillwr gwobr Grammy a Llysgennad Aloud – a sylfaenydd Elusen Aloud Tim Rhys-Evans i ysgrifennu cân newydd yn arbennig ar gyfer Only Boys Aloud. Roedd yn anrhydedd cael cynrhychioli Cymru mewn prosiect mor adnabyddus.

Trafoda’r anthem yma o gân y trafferthion yr ydym oll wedi ei brofi yn ystod y ddwy flynedd anodd ddiwethaf yma, a thrafoda yn arbennig y brwydrau mewnol mae cerddorion a chantorion wedi gorfod delio ag ar ôl clywed pa mor beryglus oedd canu yn ystod cyfnodau clo. Fel y dywedod Tim Rhys-Evans:

“Roedd yr holl bandemig yn pwysleisio mai anadl oedd yn lledaenu’r afiechyd hwn: anadl sydd yn hanfodol ar gyfer canu. Mae anadl hefyd yn cael ei ddefnyddio i’n llonyddu pan yr ydym mewn sefyllfaoedd anodd… roeddem yn teimlo fel ei fod yn drosiad da ar gyfer popeth yr oeddem wedi bod drwyddo.”

Mae’r gân yn annog bawb i gymryd saib ac anadlu – y peth hanfodol i fywyd – a gweld gobaith ac undod wrth gofio nad ydym ar ein pennau ein hunain. Yn wir, fe brofodd bawb dros y byd effeithiau’r pandemig. Bwriad y gân yw ein hatgoffa nad ydym yn bell i ffwrdd o help llaw.

Cafodd y gân ei pherfformio am y tro cyntaf ar 1af Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi i ni yma yng Nghymru. Perfformiodd aelodau o gorau Only Boys Aloud Caerdydd a Chaerffili yng nghyngerdd Cân i Gymru yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ar gyfer llawer o’r bechgyn, dyma’r tro cyntaf iddynt berfformio o flaen cynulleidfa fyw ers dwy flynedd. Roedd cael eu clywed yn canu cân mor emosiynol a theimladwy gyda Band Mawr RWCMD yn brofiad hynod arbennig; doedd dim llygad sych yn yr ystafell. Rhyddhawyd y fersiwn arlein o’r gân ar 23ain Mawrth – dwy flynedd ers dechrau’r clo mawr cyntaf yn 2020. Gallwch wylio fideo o’r gân yma:

Gallwch hefyd wylio fideo o’r broses o greu Just Breathe yma. Wrth siarad gyda’r bechgyn, roedd yn glir bod cael cân wedi ei ysgrifennu yn benodol ar gyfer Elusen Aloud wedi bod yn wych. Dywedodd un aelod:

“Rwyf wir wedi caru’r gân yma. Rwyf wir yn hoffi’r neges tu ôl iddo, o gofio’r sefyllfa bresennol a’r syniad y gallwn symud ymlaen ohono ac o wybod y bydd pethau yn gwella. Mae’n neges dda a phositif yr ydym oll ei angen yn ein bywydau ar hyn o bryd.”

CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

1 Hydref 2023
Lansiad Gorllewin Cymru Only Girls Aloud!
Bydd ein côr Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru yn cyfarfod ar gyfer eu hymarfer cyntaf!
Only Girls Aloud
10.00am
14 Hydref 2023
Ymarfer preswyl Only Kids Aloud
Only Kids Aloud