Gweithgareddau eraill

Prosiect Canu yn Japan

Mae Elusen Aloud yn falch o fod yn parhau â’n rhaglen o gyfnewid diwylliannol gydag ysgolion yn Japan, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru a Japan brofi a dysgu am ieithoedd a diwylliannau ei gilydd.

Yn dilyn y bartneriaeth gychwynnol hon, yng ngwanwyn 2023 parhaodd Elusen Aloud â’u gwaith gydag un o’r ysgolion partner, wrth i aelodau corau Only Boys Aloud a disgyblion o Ysgol Uwchradd Midorigaoka ddysgu a recordio trefniant dwyieithog newydd o ‘Hiraeth’ yn Gymraeg a Japanaeg.

Roedd aelodau Only Boys Aloud wrth eu bodd yn canu yn Japanaeg am y tro cyntaf. Lansiwyd fideo newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023 i nodi blwyddyn ers y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lywyddiaethol Oita:

Cynhaliodd y tîm weithdai mewn 3 ysgol gan gyflwyno disgyblion a phobl Japan i repertoire Only Boys Aloud, yn ogystal â meithrin cysylltiadau â swyddogion llywodraeth leol, adrannau celfyddydol a diwylliannol a chwmnïau sydd â chanolfannau yng Nghymru. Bu arweinwyr y corau hefyd yn dysgu repertoire Japaneaidd i’w defnyddio yn ymarferion corau Only Boys Aloud ym Mhrydain. 

Roedd y daith yn galluogi’r tîm i archwilio ystod o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol ar gyfer aelodau corau Only Boys Aloud a phobl ifanc yn Japan.

2021

Yng ngwanwyn 2020, roeddem ni’n trefnu taith er mwyn i Only Boys Aloud berfformio yn Japan, yn dilyn partneriaeth newydd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, British Council a Llysgenhadaeth Japan.

Er i’r daith gael ei chanslo oherwydd pandemig COVID-19, roeddem ni’n benderfynol o gadw’r prosiect canu arfaethedig yn fyw.

Felly, yn 2021, roeddem wrth ein bodd o gymryd rhan mewn prosiect corawl rhithwir gyda thri chôr o blant 6000 o filltiroedd i ffwrdd yn Kitakyushu, Kumamoto ac Oita.

Gwnaeth rhai o fechgyn Only Boys Aloud gymryd rhan mewn ymarferion wythnosol gyda’r corau o Japan, wrth iddynt hwythau ddysgu’r emyn adnabyddus ‘Calon Lân’, wedi’u haddysgu gan Arweinyddion Côr Gwych Aloud.

I ddweud diolch yn y sesiwn rannu derfynol, fe wnaeth côr OBA berfformio’r glasur Anfonaf Angel a ysgrifennwyd gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.

Roeddem ni mor falch y llwyddwyd i fwrw ymlaen â’r prosiect cyfnewid diwylliannol pwysig hwn a’r cyfle i rannu celfyddyd Cymru 

CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

1 Hydref 2023
Lansiad Gorllewin Cymru Only Girls Aloud!
Bydd ein côr Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru yn cyfarfod ar gyfer eu hymarfer cyntaf!
Only Girls Aloud
10.00am
14 Hydref 2023
Ymarfer preswyl Only Kids Aloud
Only Kids Aloud