ONLY GIRLS ALOUD
Only 'Fitzalan' Aloud
Roedd hi'n wych derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ein prosiect Cydweithio Creadigol newydd ac arloesol: ‘Only Fitzalan Aloud’!

Meddai un cyfranogwr:
“Mae fy hyder wedi gwella. Yn wreiddiol, roedd arnaf i ofn canu o flaen pobl – mae gwneud rhywbeth o’i le yn gwneud i mi deimlo embaras. Ond rwy wedi dysgu bod pawb yn gwneud rhywbeth o’i le felly pam ddylwn i deimlo embaras?”
Roedd llwyddiant y prosiect hwn hefyd yn tystio i ansawdd a chydraddoldeb y bartneriaeth. Dyma’r tro cyntaf i Elusen Aloud ac Ysgol Uwchradd Fitzalan fod yn rhan o’r fath gyfle, ac roedd y naill yn awyddus iawn i ddysgu oddi wrth y llall, er mwyn gwella eu gwybodaeth, cyfnewid sgiliau a chyfoethogi dulliau cyflawni.
Meddai Staff Cerdd Fitzalan wrth ein gwerthuswr:
“Roedd gweithio gyda staff Aloud yn bleser pur ac yn fraint, ac mae hynny wedi llywio ein hymarfer at y dyfodol. Roedd staff Aloud yn gefnogol i’r disgyblion a’r staff, ac roedd hynny’n creu awyrgylch hyfryd bob wythnos. Rydym ni wedi mwynhau cydweithio ag Aloud yn fawr iawn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd eto.”
“Teimlai’r disgyblion eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn arbennig am eu bod nhw’n rhan o’r unig ysgol i gael ei dewis ar gyfer y prosiect hwn. Mae hyder y disgyblion i berfformio fel rhan o ensemble wedi datblygu’n fawr am fod tîm Aloud bob amser yn gefnogol i’n disgyblion ac yn eu hannog. Roeddem ni hefyd wedi sylwi bod hyder y disgyblion mewn darllen nodiant yn eu gwersi cwricwlwm wedi gwella o ganlyniad i ddefnyddio sgôr yn eu hymarferion Aloud a mynd i’r afael â’r her.”
“Teimlai’r disgyblion eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn arbennig am eu bod nhw’n rhan o’r unig ysgol i gael ei dewis ar gyfer y prosiect hwn. Mae hyder y disgyblion i berfformio fel rhan o ensemble wedi datblygu’n fawr am fod tîm Aloud bob amser yn gefnogol i’n disgyblion ac yn eu hannog.”
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.
