Ocommunity project
Hyrwyddo cynaliadwyedd drwy gyfansoddi
Partnerniaeth newydd Elusen Aloud a Phorthladd Aberdaugleddau.
Mae Elusen Aloud a Phorthladd Aberdaugleddau wedi gweithio mewn partneriaeth ar brosiect cyfansoddi cyffrous wedi ei gefnogi gan gynllun CultureStep Arts & Business Cymru.
Dros gyfnod o dair wythnos ym mis Mai 2022, cafodd disgyblion o Ysgol Harri Tudur, Penfro gyfle prin ac unigryw i gydweithio gyda chyfansoddwr proffesiynol – wedi cael ei gomisiynu gan Elusen Aloud – i greu cân newydd, wreiddiol sy’n adlewyrchu teimladau’r disgyblion am bwysigrwydd amddiffyn lles y blaned.
Bu staff Porthladd Aberdaugleddau ynghyd â phartneriaid eraill y prosiect, gan gynnwys Pŵer y Môr Celtaidd, Ynni Morol Cymru ac ORE Catapult yn ymweld â’r ysgol i siarad â’r plant am eu prosiect morol newydd Doc Penfro, i gyflwyno eu gwaith a’u cynlluniau o ran ynni cynaliadwy yn yr ardal ar gyfer y dyfodol. Yna, bu Arweinwyr Côr o Elusen Aloud yn helpu grŵp o ddisgyblion TGAU Cerddoriaeth i gyfansoddi alaw a geiriau eu hunain, gan gymryd ysbrydoliaeth o gyflwyniadau y siaradwyr gwadd.
Recordiwyd creadigaethau cerddorol y disgyblion i greu campwaith pwerus i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect ailddatblygu. Cymerodd aelodau o’r gymuned ran yn y recordiad a’r fideo gorffenedig.
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o gynlluniau datblygu Porthladd Aberdaugleddau, roedd y prosiect hwn yn dathlu ymlediad Elusen Aloud i orllewin Cymru, dywedodd Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol Elusen Aloud:
“Roedd yn hynod braf cael gweithio gyda Porthladd Aberdaugleddau ac Ysgol Harri Tudur ar y prosiect cyfansoddi unigryw hwn. Mae hi mor bwysig fod gan bobl ifanc gyfle i fynegi eu barn, yn enwedig ar bynciau mor allweddol â chynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym wedi'n plesio'n arw â'r fideo cerdd terfynol!”
Dywedodd Hollie Phillips, Cynorthwyydd Ymgysylltu Cymunedol Porthladd Aberdaugleddau:
"Mae'r cydweithio wedi bod yn wych o’r dechrau i'r diwedd. Cawsom siarad gyda'r disgyblion o Ysgol Harri Tudur ynghylch prosiect morol Doc Penfro, i'w hysbrydoli i ysgrifennu'r geiriau a rhoi gwybodaeth iddynt am y datblygiadau sy'n digwydd yn eu tref. Gobeithio ein bod wedi tanio rhywfaint o ddiddordeb yn y mathau o yrfaoedd a allai fod ar gael iddynt ar garreg eu drws wrth inni chwarae ein rhan yn y dasg o gyflawni targedau Sero Net y wlad a chreu swyddi gwyrdd lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Hoffem ddiolch i gynllun CultureStep Arts & Business Cymru am gefnogi’r prosiect cyffrous hwn.
CEFNOGWCH NI
Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw
Cyfrannwch
Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.
Ymaelodi â Chynllun Calon
Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.
Codi Arian i Ni
P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.