ONLY KIDS ALOUD

Cyn-aelodau Only Kids Aloud

Pan ddaw eu hamser yn Only Kids Aloud i ben, gall yr aelodau barhau i fwynhau eu profiad Aloud yn Only Boys Aloud neu Only Girls Aloud.

Byddwch bob amser yn rhan o Aloud!

Mae Elusen Aloud wedi cael y fraint o weithio gyda miloedd o blant dros y blynyddoedd drwy ein rhaglenni Only Kids Aloud, ac mae’n hyfryd pan fydd cyn-gyfranogwyr yn cadw mewn cysylltiad gyda ni, a gyda’i gilydd.

Yn 2020, gwnaethom ddatblygu Cynllun Cyn-aelodau OKA, gan roi’r cyfle i gyn-aelodau gynnal eu cysylltiad ag Aloud a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau OKA.

Pan fydd aelodau OKA yn dod yn Gyn-aelodau, byddant yn cael bathodyn pin arbennig i gofio am eu hamser gyda’r côr.

Manteision

Cael gwybod am newyddion, digwyddiadau a pherfformiadau diweddaraf Aloud

Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau OKA

Cael eich cynnwys mewn cyfleoedd i gydganu yn y dyfodol

Ydych chi’n Gyn-aelod o OKA?

Ydych chi wedi bod yn aelod o’n Côr Only Kids Aloud, neu’n adnabod rhywun sydd wedi bod? Cysylltwch â ni heddiw i roi gwybod. Byddai’n braf iawn cael cadw mewn cysylltiad â chi, a’ch helpu chithau i gadw mewn cysylltiad ag Elusen Aloud.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynghylch dod yn Gyn-aelod neu ynghylch y cam nesaf yn eich taith Aloud, gallwch gysylltu â ni drwy [email protected].

CEFNOGWCH NI

Helpwch i gadw'r gerddoriaeth yn fyw

Cyfrannu

Cyfrannwch

Drwy gyfrannu heddiw, fe fyddwch yn rhan o stori Aloud, yn ein helpu i roi profiadau cadarnhaol a all newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

Ymaelodi â Chynllun Calon

Ymaelodi â Chynllun Calon

Aelodau Calon sy’n cynnal curiad Elusen Aloud, ac maen nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant.

Codi Arian i Ni

P’un a ydych chi eisiau rhedeg marathon neu drefnu eich her elusennol eich hun, gallwch helpu i gefnogi ein gweithgarwch yn eich ardal leol.

Digwyddiadau Ar y Gorwel

Beth Sydd ar y Gweill?

9 Rhagfyr 2023
Nadolig gyda Aloud
Ymunwch ag Only Boys Aloud ac Only Girls Aloud ar gyfer detholiad o ffefrynnau'r ŵyl a chlasuron Aloud
Only Girls Aloud, Only Boys Aloud
St German's Church Metal Street, Cardiff CF24 0LA